Pêl-fasged

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Michael Jordan yn chwarae pêl-fasged.
Carl English yn ceisio pasio amddiffyniad Zoran Dragić mewn gêm bêl-fasged rhwng Estudiantes a Málaga (82-68) yng nghyngrair Sbaen: y Liga ACB.

Yn y gêm pêl-fasged, mae dau dîm, gyda pump o chwaraewyr ar pob ochr. Maent yn ceisio ennill pwytiau drwy daflu pêl trwy'r fasged, sydd ddeg troedfedd o'r llawr yn ôl y rheolau. Hwn yw un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd.

Pêl-fasged (eiliadau)

Enillir pwyntiau drwy basio'r bêl drwy'r fasged ar ei lawr; y tîm a'r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yw'r tîm buddugol. Gall y bêl deithio ymlaen ar y cẅrt drwy ei fownsio, driblo, neu ei basio nôl ag ymlaen rhwng aelodau o'r tîm. Ni chaniateir dod mewn cyswllt ag eraill (Saesneg: foul) ac mae rheolau llym ynglyn a sut ddylir ymdrin â'r bêl.


Mae Pêl fasged wedi datblygu i gynnwys nifer o dechnegau cyffredin megis saethu, pasio a driblo, yn ogystal a safleoedd y chwaraewyr a strwythrau chwarae ymosodol ac amddiffynol. Tra bod Pêl fasged cystadleuol wedi ei reoli yn ofalus, mae nifer fawr a amrywiaethau ar y gêm iw gael ar gyfer chwarae hamdden. Mewn rhai gwledydd mae Pêl fasged hefyd yn êm wylwyr boblogaidd.

Tra bod Pêl fasged cystadleuol yn êm mewnol yn bennaf, gan gael ei chwarae ar gwrt, mae nifer o amrywiaethau ar y gêm yn cael eu chwarae tu allan mewn dinasoedd mawr ac mewn cymunedau gwledig.

Basketball stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-fasged. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.