Heddychiaeth yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Heddychaeth yng Nghymru)
Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru, cyfrol gan Gwynfor Evans (1991)

Mae gan heddychiaeth yng Nghymru hanes hir, a'i gwreiddiau'n bennaf yn nhir Ymneilltuaeth, rhai agweddau ar genedlaetholdeb Cymreig a sosialaeth. Fel heddychwyr mewn gwledydd eraill, mae heddychwyr Cymreig yn credu ei bod yn anghywir i gymryd rhan mewn rhyfel neu unrhyw beth sy'n ymwneud â fo. Mae'n gred foesol yn ogystal â bod yn syniad gwleidyddol.

Cartŵn gwrth-ryfel adeg ymgyrch Penyberth, o'r cylchgrawn heddychiaeth Heddiw, Rhagfyr 1936

Heddychwyr yw Crynwyr Cymru, o'u cychwyn yn yr 17g hyd heddiw. Yn y 19g roedd heddychiaeth yn perthyn yn agos i radicaliaeth a rhyddfrydiaeth ac mae heddychwyr amlwg o'r cyfnod hwnnw yn cynnwys Gwilym Hiraethog a Samuel Roberts, Llanbrynmair. Sefydlwyd Y Gymdeithas Heddwch a daeth Henry Richard, yr "Apostol Heddwch", yn Ysgrifennydd iddi o 1848 hyd 1885.

Cafodd erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf ddylanwad mawr ar heddychiaeth yng Nghymru. Er bod trwch y boblogaeth wedi cael eu harwain i gredu David Lloyd George yn ei honiad fod y rhyfel yn rhyfel cyfiawn er mwyn amddiffyn hawliau cenhedloedd bychain (Gwlad Belg yn benodol ond Cymru hefyd fel canlyniad), bu anesmwythyd mawr ymhlith rhyddfrydwyr a berthynai i'r traddodiadau Cristnogol a sosialaidd. Ffurfiwyd Cymdeithas y Cymod ym 1914 ac ymunodd nifer o Ymneilltuwyr â hi, yn cynnwys George M. Ll. Davies. Cyhoeddodd y Gymdeithas y cylchgrawn Y Deyrnas yn ystod y rhyfel, dan olygyddiaeth Thomas Rees.

Ym maes glo De Cymru ymunodd nifer fawr o lowyr mewn cyfarfodydd yn erbyn y rhyfel, ond yn bennaf am eu bod yn credu fod y rhyfel yn enw cyfalafiaeth a buddiannau imperialaeth yn hytrach nag am resymau heddychol fel y cyfryw.

Ym 1922 sefydlwyd Cyngor Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd a mabwysiadwyd rhaglen heddychol gan yr aelodau.

Ym 1923 etholwyd George M. Ll. Davies yn Aelod Cristnogol Heddychol fel AS Prifysgol Cymru yn San Steffan. Dwy flynedd yn ddiweddarach sefydlwyd Plaid Cymru a'i hegwyddorion yn seiliedig ar elfen gref o heddychiaeth. Aeth un aelod o'r blaid, Gwenallt, i garchar am iddo fod yn wrthwynebydd cydwybodol (seilir ei nofel Plasau'r Brenin ar y profiad).

Gweithred yn erbyn milwriaeth oedd llosgi Penyberth gan Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn 1936, yn ogystal â safiad dros hawliau Cymru fel gwlad a chenedl.

Bu nifer o Gymry ym mlaenllaw yn y Peace Pledge Union, a sefydlwyd ym 1936, ac ym 1937 sefydlwyd Cymdeithas Heddychwyr Cymru dan arlywyddiaeth George M. Ll. Davies a chyda Gwynfor Evans yn Ysgrifennydd y mudiad.

Gwrthododd yr awdur John Griffith Williams gymryd rhan mewn gweithgareddau milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a threuliodd gyfnod mewn carchar am hynny. Roedd yn un o nifer o Gymry a wrthwynebodd ymrestru yn y fyddin fel gwrthwynebwyr cydwybodol, a chafwyd canran uwch o wrthwynebwyr yng Nghymru nac mewn unrhyw ran arall o'r DU.

Ym 1960 carcharwyd y bardd Waldo Williams ddwywaith am wrthod talu trethu ar sail y ddadl y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu arfau.

Bu dulliau di-drais ac athroniaeth yr arweinydd Indiaidd Mahatma Gandhi yn ddylanwad mawr ar Gymdeithas yr Iaith, yn enwedig yn eu dewis o fabwysiadu dulliau protest uniongyrchol di-drais.

Yn yr 1980au merched o Gaerdydd oedd y cyntaf i sefydlu gwersyll heddwch yn Greenham Common.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]