Mahatma Gandhi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mahatma Gandhi
Portrait Gandhi.jpg
Ganwydમોહનદાસ ગાંધી Edit this on Wikidata
2 Hydref 1869 Edit this on Wikidata
Porbandar Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1948 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Gandhi Smriti Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, India, De Affrica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBritish Raj, Dominion of India, India Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr, ysgrifennwr gwleidyddol, newyddiadurwr, athronydd, hunangofiannydd, awdur ysgrifau, golygydd papur newydd, ymgyrchydd hawliau sifil, bywgraffydd, dyngarwr, gweithredwr dros heddwch, chwyldroadwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amsatyagraha Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHenry David Thoreau, Lev Tolstoy, Siddhartha Gotama, G. K. Chesterton, John Ruskin Edit this on Wikidata
Taldra164 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCyngres Genedlaethol India Edit this on Wikidata
Mudiadnonviolence, Llysieuaeth Edit this on Wikidata
TadKaramchand Uttamchand Gandhi Edit this on Wikidata
MamPutlibai Karamchand Gandhi Edit this on Wikidata
PriodKasturba Gandhi Edit this on Wikidata
PlantHarilal Gandhi, Manilal Gandhi, Ramdas Gandhi, Devdas Gandhi Edit this on Wikidata
Gwobr/auTime Person of the Year, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo Edit this on Wikidata
Llofnod
Gandhi signature.svg

Cenedlaetholwr gwrth-wladychol a heddychwr o India oedd Mohandas Karamchand Gandhi (2 Hydref 186930 Ionawr 1948) (Devanagari: मोहनदास करमचन्द गांधी, Gujarati મોહનદાસ કરમચંદ ગાંધી)[1]. Roedd hefyd yn gyfreithiwr Indiaidd,[2][3] a moesegydd gwleidyddol[4] a heddychwr a arweiniodd wrthwynebiad di-drais ei bobl yn eu hymgyrch lwyddiannus dros annibyniaeth India yn erbyn rheolaeth Lloegr (Prydain),[5] ac i ysbrydoli ymgyrchoedd dros hawliau sifil a rhyddid ledled y byd.

Mae'r enw Mahātmā anrhydeddus (Sansgrit: "eneidfawr" neu "hybarch"), a gymhwyswyd gyntaf iddo ym 1914 yn Ne Affrica, bellach yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.[6][7] Adnabyddir ef fel rheol fel Mahatma Gandhi; ystyr Mahatma yw "Eneidfawr".

Mae ei athroniaeth wedi dylanwadu ar nifer o arweinwyr ymgyrchoedd am hawliau, er enghraifft Martin Luther King a Nelson Mandela.

Daeth yn arweinydd Cyngres Genedlaethol India ym 1921, ac arweiniodd Gandhi ymgyrchoedd ledled y wlad i leddfu tlodi, ehangu hawliau menywod, adeiladu hawliau crefyddol ac ethnig, dod â chyffyrddadwyedd (untouchability) i ben, ac, yn anad dim, cyflawni swaraj . Roedd y syniad o swaraj, neu hunanreolaeth yn pwysleisio llywodraethu, nid gan lywodraeth hierarchaidd, ond trwy hunan-lywodraethu trwy unigolion ac adeiladu cymunedol, lle mae'r ffocws ar ddatganoli gwleidyddol.[8]

Mabwysiadodd Gandhi y dhoti byr - math o wisg wedi'i wehyddu ag edafedd wedi'i nyddu â llaw er mwyn uniaethu â thlodion gwledig India. Dechreuodd fyw mewn cymuned hunangynhaliol, i fwyta bwyd syml, ac ymgymryd ag ymprydiau hir fel modd o fewn-fyfyrio ac fel protest wleidyddol. Gan ddod â chenedlaetholdeb gwrth-wladychol i'r Indiaid cyffredin, arweiniodd Gandhi drwy herio'r dreth halen a orfodwyd gan Loegr gyda'r 400 km (250 milltir) ym 1930 ac wrth alw ar y Saeson i adael India ym 1942. Fe'i carcharwyd lawer gwaith ac am nifer o flynyddoedd yn Ne Affrica ac India.

Mae pen-blwydd Gandhi, 2 Hydref, yn cael ei gofio yn India fel Gandhi Jayanti, gwyl genedlaethol, a ledled y byd fel Diwrnod Rhyngwladol Di-drais. Mae Gandhi yn cael ei ystyried yn gyffredin, er nad yn swyddogol, yn Dad y Genedl yn India[9][10] ac fe'i gelwid yn gyffredin yn Bapu [11] (Gwjarati : y tad,[12] dada[12][13] ).

Crynodeb o'i fywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Gandhi i deulu Hindŵaidd yn Porbandar yn nhalaith Gujarat, India yn 1869. Roedd ei dad yn dal swydd uchel yn Porbandar. Priodwyd ef yn 15 oed i Kasturba Makharji, hithau'n 13 oed. Caswant bedwar mab: Harilal, Manilal, Ramdas a Devdas Gandhi. Addysgwyd ef yn Porbandar ac yna yn Rajkot a Bhavnagar. Dymunai ei rieni iddo fod yn fargyfreithiwr a gyrrwyd ef i Lundain yn 19 oed i'w hyfforddi yn y gyfraith.

Roedd Gandhi wedi addo i'w fam cyn cychwyn i Lundain na fyddai'n cyffwrdd cig nag alcohol tra byddai yno. Ymunodd a Chymdeithas y Llysieuwyr, a daeth rhai o aelodau'r gymdeithas yma ag ef i gysylltiad a'r Theosophyddion a gafodd gryn ddylanwad arno, gan ei annog i astudio'r Bhagavad Gita.

Dychwelodd i India i geisio gwaith fel cyfreithiwr, ond heb lawer o lwyddiant. Derbyniodd gynnig gan gwmni Indiaidd yn Natal, De Affrica i fynd yno fel cyfreithiwr.

Gandhi yn Ne Affrica[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ne Affrica y dechreuodd Gandhi gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Un o'r digwyddiadau a ysbrydolodd hyn oedd cael ei daflu oddi ar drên yn Pietermaritzburg pan ar daith i Pretoria. Roedd ganddo diced dosbarth cyntaf, ond pan wrthwynebodd un o'r teithwyr gwyn rannu'r dosbarth cyntaf gydag Indiad, dywedwyd wrtho am symud i'r trydydd dosbarth. Gwrthododd Gandhi, a thaflwyd ef o'r trên.

Dechreuodd ymgyrchu yn erbyn rhai o'r deddfau oedd yn cadw'r boblogaeth Indiaidd yn Ne Affrica mewn safle israddol. Roedd senedd Natal yn bwriadu pasio deddf i atal Indiaid rhag pleidleisio, a chymerodd Ganhi ran amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn y ddeddf. Ni lwyddwyd i atal y ddeddf yma rhag dod i rym, ond aeth ymlaen i ymgyrchu ar faterion eraill, gan sefydlu Cyngres Indiaidd Natal yn 1894. Yn 1906 daeth llywodraeth y Transvaal a deddf ymlaen i orfodi pob Indiad i gofrestru, a bu Gandhi eto'n amlwg yn gwrthwynebu hyn, gan lwyddo i berswadio'r llywodraeth i gymrodeddu. Yr adeg yma y datblygodd ei syniadau am satyagraha neu "ffyddlondeb i'r gwirionedd". Heblaw'r Bhagavad Gita, cafodd syniadau Lev Tolstoy ddylanwad mawr arno.

Gandhi yn India (1914–1947)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd Gandhi i India yn 1914. Yn 1918, dechreuodd ymgyrch dros ffermwyr tlawd Champaran yn nhalaith Bihar, oedd yn cael eu gorfodi i dyfu indigo a chnydau tebyg yn hytrach na thyfu bwyd i'w teuluoedd, gan arwain at newyn. Yr adeg yma y galwyd ef yn Mahatma am y tro cyntaf. Yn dilyn hyn pasiwyd y Rowlatt Act yn 1919, oedd yn rhoi hawl i'r llywodraeth garcharu gwrthwynebwyr heb achos llys. Yn y terfysgoedd a ddilynodd hyn, lladdwyd 179 o brotestwyr heb arfau gan filwyr Prydeinig yn Amritsar.

Yn Ebrill 1920, etholwyd Gandhi yn arlywydd yr "All-India Home Rule League", a than ei arweiniad ef cytunodd y Gyngres Indiaidd ar y nôd o swaraj (anibyniaeth). Roedd cynlluniau Gandhi o ymgyrchu di-drais yn cynnwys gwrthod prynu nwyddau Prydeinig a cheisio bod yn hunan-gynhaliol. Treuliai Gandhi ei hun oriau yn nyddu ar droell i osgoi prynu brethyn Prydeinig. Cafodd hyn gryn lwyddiant, ond pan fu terfysg yn Uttar Pradesh yn 1922 ataliodd Gandhi yr ymgyrch. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn fuan wedyn a chafodd ddedfryd o chwe blynedd o garchar. Rhyddhawyd ef oherwydd afiechyd yn 1924

Yn 1930 dechreuodd ar ei ymgyrch enwocaf, y "Daith Halen", 248 milltir o Ahmedabad i Dandi yn Gujarat i gasglu halen o'r môr, oedd yn torri deddf oedd yn gwahardd i Indiaid wneud eu halen eu hunain. Carcharwyd dros 60,000 o bobl yn ystod yr ymgyrch yma.

Gandhi yn ystod y "Daith Halen" (1930)

Roedd Gandhi hefyd yn ymgyrchu ar ran y Dalit, y bobl oedd islaw y system caste yn yr India. Arweiniai ymgyrchoedd o'i ashram yn Sevagram lle roedd yn byw bywyd syml gyda'i ddilynwyr.

Ddechrau'r 1940au dechreuodd ymgyrch newydd gyda'r arwyddait "Quit India!". Carcharwyd ef eto yn 1942 yngyd ag arweinwyr eraill y Gyngres. Tra'r oedd yn y carchar bu farw ei wraig Kasturbai. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd yn amlwg fod Prydain yn barod i adael India. Yn groes i ddymuniad Gandhi, oedd yn credu y dylai Mwslimiaid a Hindwiaid fyw gyda'i gilydd fel brodyr, cytunwyd i rannu'r wlad yn India a Pacistan. Cyhoeddwyd anibyniaeth India yn 1947.

Yn Ionawr 1948 roedd Gandhi ar ei ffordd i gyfarfod gweddi yn Delhi pan saethwyd ef yn farw gan Nathuram Godse, aelod o grwp Hindŵaidd a gredai fod Gandhi yn rhy ffafriol i'r Mwslimiaid. Llosgwyd ei gorff yn Delhi ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr, a gwasgarwyd ei ludw ar y môr.

Dywediadau gan Gandhi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar effaith handwyol yr iaith Saesneg ar ddiwylliant cynhenid India:

"Mae pobl fel pe baen nhw wedi meddwi ar win y Saesneg. Maen nhw'n siarad Saesneg yn eu clybiau, yn eu tai, ymhob man. Maen nhw'n colli eu hunaniaeth genedlaethol." [14]

Yn fanylach[golygu | golygu cod y dudalen]

Bywyd a chefndir cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Mohandas Karamchand Gandhi[15] ar 2 Hydref 1869[16] mewn i gymuned Modh Hindwaidd o fewn talaith Gujarat[17][18] yn ninas Porbandar (a elwir hefyd yn Sudamapuri). Roedd Porbander yn dref arfordirol ar Benrhyn Kathiawar yn Asiantaeth Kathiawar yn Ymerodraeth India. Gwasanaethodd ei dad, Karamchand Uttamchand Gandhi (1822-1885), fel dewan (prif weinidog) talaith Porbandar.[3][19]

Er mai dim ond addysg elfennol a gafodd ac y bu gynt yn glerc yng ngweinyddiaeth y wladwriaeth, profodd Karamchand, ei dad, yn brif weinidog galluog.[20] Yn ystod ei gyfnod, priododd Karamchand bedair gwaith. Bu farw ei ddwy wraig gyntaf yn ifanc, ar ôl iddynt, ill dwy, roi genedigaeth i ferch, ac roedd ei drydedd briodas yn ddi-blant. Yn 1857, gofynnodd Karamchand am ganiatâd ei drydedd wraig i ailbriodi; y flwyddyn honno, priododd Putlibai (1844-1891), a ddaeth hefyd o Junagadh,[20] ac a oedd o deulu Pranami Vaishnava.[21] Ganwyd tri o blant i Karamchand a Putlibai dros y degawd nesaf: mab, Laxmidas (tua 1860); merch, Raliatbehn (1862–1960); a mab arall, Karsandas (c. 1866–1913).[22][23]

Ar 2 Hydref 1869, esgorodd Putlibai ar ei phlentyn olaf, Mohandas, mewn ystafell dywyll, ddi-ffenestr ar lawr gwaelod preswyl teulu Gandhi yn ninas Porbandar. Yn blentyn ifanc, disgrifiwyd Gandhi gan ei chwaer Raliat fel "plentyn aflonydd fel arian byw, naill ai'n chwarae neu'n crwydro o gwmpas. Un o'i hoff bleser oedd chwarae gyda chlustiau cŵn."[24] Cafodd y clasuron Indiaidd, yn enwedig straeon Shravana a'r brenin Harishchandra, effaith fawr ar Gandhi yn ei blentyndod. Yn ei hunangofiant, mae'n cyfaddef iddynt adael argraff annileadwy ar ei feddwl. Mae'n ysgrifennu: "Fe wnaeth fy mhoeni ac mae'n rhaid fy mod i wedi actio'r Harishchandra i mi fy hun lawer o weithiau." Gellir olrhain dylanwad cynnar Gandhi gyda gwirionedd a chariad fel y prif werthoedd i'r cymeriadau epig hyn.[25]

Roedd cefndir crefyddol y teulu yn amrywiol. Roedd tad Gandhi, Karamchand, yn Hindŵ ac roedd ei fam Putlibai hefyd o deulu Hindwaidd Pranami Vaishnava (un o'r prif enwadau.[26][27] Roedd tad Gandhi o gast Modh Baniya, y dosbarth (neu'r caste uchaf) yn varna Vaishya (y 3ydd caaste uchaf).[28] Daeth ei fam o draddodiad Pranami canoloesol Krishna bhakti, y mae ei destunau crefyddol yn cynnwys y Bhagavad Gita, y Bhagavata Purana, a chasgliad o 14 testun gyda dysgeidiaeth y mae'r traddodiad yn credu sy'n cynnwys hanfod y Veda, y Corân a'r Beibl.[27][29] Cafodd Gandhi ei ddylanwadu'n ddwfn gan ei fam, dynes hynod dduwiol na fyddai "yn meddwl cymryd ei phrydau bwyd heb ei gweddïau beunyddiol ... byddai'n cymryd yr addunedau anoddaf a'u cadw heb gwyno. Nid oedd mynd ar ddau neu dri ympryd yn olynol yn ddim byd iddi."[30]

Ym 1874, gadawodd tad Gandhi, Karamchand, Porbandar am dalaith lai Rajkot, lle daeth yn ymgynghorydd i'w reolwr, y Thakur Sahib; er bod Rajkot yn wladwriaeth llai mawreddog na Porbandar, roedd asiantaeth wleidyddol ranbarthol Prydain wedi'i lleoli yno, a roddodd fesur o ddiogelwch (a elwid y diwan) i'r dalaith.[31] Ym 1876, daeth Karamchand yn diwan o Rajkot a dilynwyd ef yn diwan o Porbandar gan ei frawd Tulsidas. Yna ailymunodd ei deulu ag ef yn Rajkot.[32]

Gandhi (dde) gyda'i frawd hynaf Laxmidas ym 1886.[33]

Yn 9 oed, aeth Gandhi i'r ysgol leol yn Rajkot, ger ei gartref. Yno, astudiodd elfennau o rifyddeg, hanes, yr iaith Gwjarati a daearyddiaeth.[32] Yn 11 oed, ymunodd â'r Ysgol Uwchradd yn Rajkot, Ysgol Uwchradd Alfred, sef yr ysgol Saesneg gyntaf, ac un o'r ysgolion hynaf yn India heddiw.[34] Roedd Gandhi'n fyfyriwr cyffredin, enillodd rai gwobrau, ond roedd yn fyfyriwr swil, heb unrhyw ddiddordeb mewn chwaraeon; ei unig gymdeithion oedd llyfrau a gwersi ysgol.[35]

Ym Mai 1883, priodwyd Mohandas, 13-mlwydd-oed â Kasturbai Makhanji Kapadia, 14 oed (roedd ei henw cyntaf fel arfer yn cael ei fyrhau i "Kasturba", a'r term teuluol i "Ba") mewn priodas wedi'i threfnu, yn ôl yr arfer yn y rhanbarth hwnnw. Yn y broses, collodd flwyddyn o'r ysgol ond yn ddiweddarach caniatawyd iddo wneud iawn trwy gyflymu ei astudiaethau.[36] Roedd ei briodas yn ddigwyddiad ar y cyd, lle priodwyd ei frawd a'i gefnder hefyd ar yr un pryd. Wrth gofio diwrnod eu priodas, dywedodd unwaith, "Gan nad oeddem yn gwybod llawer am briodas, i ni roedd yn golygu gwisgo dillad newydd yn unig, bwyta losin a chwarae gyda pherthnasau." Yn ôl y traddodiad cyffredinol, roedd y briodferch glasoed i dreulio llawer o amser yn nhŷ ei rhieni, yn hytrach na gyda'i gŵr.[36]

Wrth ysgrifennu flynyddoedd yn ddiweddarach, disgrifiodd Mohandas, gyda gofid, y teimladau rhywiol a deimlai tuag at y briodferch ifanc, "hyd yn oed yn yr ysgol roeddwn i'n arfer meddwl amdani, ac yn poeni am gyfarfod fin nos a'n cyfarfod y bore wedyn yn fy mhoeni." Yn ddiweddarach fe gofiodd deimlo'n genfigennus ac yn feddiannol ohoni, fel pan fyddai hi'n ymweld â theml gyda'i ffrindiau benywaidd, a'i chwantu.[37]

Ddiwedd 1885, ddwy flynedd wedyn, bu farw tad Gandhi, Karamchand.[38] Cafodd Gandhi, a oedd yn 16 oed ar y pryd, a'i wraig 17 oed eu babi cyntaf, a oroesodd ychydig ddyddiau'n unig. Roedd y ddwy farwolaeth yn poeni Gandhi.[38] Wedi hynny, cafodd y pâr ifanc bedwar plentyn arall, pedwar mab: Harilal, a anwyd ym 1888; Manilal, a anwyd ym 1892; Ramdas, ganwyd ym 1897; a Devdas, ganwyd ym 1900.

Yn Nhachwedd 1887, graddiodd y Gandhi 18 oed o'r ysgol uwchradd yn Ahmedabad.[39] Yn Ionawr 1888, cofrestrodd yng Ngholeg Samaldas yn Nhalaith Bhavnagar, yr unig sefydliad addysg uwch aoedd ar yr adeg honno'n rhoi graddau yn y rhanbarth. Ond rhoddodd y ffidil yn y to a dychwelodd at ei deulu yn Porbandar.[40]

Tair blynedd yn Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Myfyriwr y gyfraith[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi i Gandhi adael y coleg rhataf y gallai ei fforddio yn Bombay [36] cynghorodd Mavji Dave Joshiji, offeiriad Brahmin a ffrind i'r teulu, Gandhi y dylai ystyried astudio'r gyfraith yn Llundain.[41] Yng Ngorffennaf 1888, esgorodd ei wraig Kasturba ar eu mab cyntaf i oroesi, sef, Harilal.[42] Nid oedd ei fam yn gyffyrddus â Gandhi yn gadael ei wraig a'i deulu, ac yn mynd mor bell oddi cartref a cheisiodd ewythr Gandhi Tulsidas hefyd ei gynghori i'w nai beidio a mynd i Lundain. Roedd Gandhi eisiau mynd. I berswadio ei wraig a'i fam, gwnaeth Gandhi adduned o'u blaen, y byddai'n ymatal rhag bwyta cig, yfed alcohol nac yn ymwneud â menywod. Cytunodd brawd Gandhi, Laxmidas, a oedd eisoes yn gyfreithiwr, y byddai'n beth da i Gandhi astudio yn Llundain a chefnogodd ef i'r carn, ac yn ariannol. O'r diwedd, rhoddodd Putlibai ei chaniatâd a'i bendith i Gandhi.[40][43]

Ar 10 Awst 1888, gadawodd Gandhi 18 oed, Porbandar am Mumbai, a elwid wedyn yn Bombay. Ar ôl cyrraedd Mumbai, arhosodd gyda'r gymuned Modh Bania, lleol. Rhybuddiwyd ef gan henuriaid y gymuned y byddai'r Saeson yn ei demtio i gyfaddawdu o ran ei grefydd, a bwyta, yfed a hel merched, yn ffyrdd y Gorllewin. Er gwaethaf i Gandhi eu hysbysu o'i addewid i'w fam , cafodd ei ddiarddel o'i gaste. Anwybyddodd Gandhi hyn, ac ar 4 Medi, hwyliodd o Bombay i Lundain, gyda'i frawd yn ffarwelio ag ef ar y lan.[42] Mynychodd Gandhi Goleg y Brifysgol, Llundain (UCL), un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain.

Gandhi yn Llundain fel myfyriwr y gyfraith

Yn UCL, astudiodd y gyfraith a chyfreitheg a gwahoddwyd ef i gofrestru yn y Deml Fewnol gyda'r bwriad o ddod yn fargyfreithiwr. Roedd swildod plentyndod a hunan-dynnu'n ôl wedi parhau trwy ei arddegau. Cadwodd y nodweddion hyn pan gyrhaeddodd Lundain, ond ymunodd â grŵp ymarfer siarad cyhoeddus a goresgynodd ei swildod yn ddigonol i ymarfer y gyfraith.[44]

Dangosodd ddiddordeb mawr yn lles cymunedau dociau tlawd Llundain. Ym 1889, cychwynnodd anghydfod masnach chwerw yn Llundain, gyda docwyr yn streicio am well cyflog ac amodau, a morwyr, adeiladwyr llongau, merched ffatri ac eraill yn ymuno â'r streic mewn solidariaeth, i'w cefnogi. Roedd y streicwyr yn llwyddiannus, yn rhannol oherwydd Cardinal Manning, gan arwain Gandhi a ffrind Indiaidd i wneud pwynt o ymweld â'r cardinal a diolch iddo am ei waith.[45]

Llysieuaeth a gwaith pwyllgor[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Llundain, dylanwadwyd ar Ghandi gan yr adduned a wnaeth i'w fam. Ceisiodd fabwysiadu arferion "Saesnig", gan gynnwys cymryd gwersi dawnsio. Fodd bynnag, nid oedd yn gwerthfawrogi'r bwyd llysieuol diflas a gynigiwyd gan ei dirfeddiannwr ac roedd eisiau bwyd yn aml nes iddo ddod o hyd i un o ychydig fwytai llysieuol Llundain. Wedi’i ddylanwadu gan ysgrifen Henry Salt, ymunodd â Chymdeithas Llysieuwyr Llundain ac fe’i hetholwyd i’w phwyllgor gwaith[46] dan adain ei lywydd a’i gymwynaswr Arnold Hills. Tra ar y pwyllgor roedd rhai o'r llysieuwyr y cyfarfu â nhw yn aelodau o'r Gymdeithas Theosophical, a sefydlwyd ym 1875 i hyrwyddo brawdoliaeth gyffredinol, ac a oedd wedi'i neilltuo i astudio llenyddiaeth Bwdhaidd a Hindŵaidd. Anogwyd Gandhi i ymuno â nhw i ddarllen y Bhagavad Gita mewn cyfieithu yn ogystal ag yn y gwreiddiol.[46]

Roedd gan Gandhi berthynas gyfeillgar a chynhyrchiol â Hills, ond roedd gan y ddau ddyn farn wahanol ar gyd-aelod o'r pwyllgor Thomas Allinson, a'i aelodaeth o'r LVS. Eu hanghytundeb yw'r enghraifft gyntaf hysbys o Gandhi yn herio awdurdod, er gwaethaf ei swildod a'i anfodlonrwydd tuag at wrthdaro.

Roedd Allinson wedi bod yn hyrwyddo dulliau atal cenhedlu newydd, ond anghymeradwyodd Hills a hyn, gan gredu eu bod yn tanseilio moesoldeb cyhoeddus. Credai fod llysieuaeth yn fudiad moesol ac na ddylai Allinson felly barhau'n aelod o'r LVS mwyach. Rhannodd Gandhi farn Hills ar beryglon rheoli genedigaeth, ond amddiffynodd hawl Allinson i fod yn wahanol.[47] Byddai wedi bod yn anodd i Gandhi herio Hills gan ei fod 12 mlynedd yn hŷn nag ef, ac yn wahanol i Gandhi, yn huawdl iawn. Bu'n cyfrannu'n ariannol i goffrau'r LVS ac roedd yn 'gapten diwydiant' gyda'i gwmni Thames Ironworks, gand gyflogi dros 6,000 o bobl yn East End Llundain. Roedd hefyd yn chwaraewr chwaraeon medrus iawn a sefydlodd y clwb pêl-droed West Ham United beth amser yn ddiweddarach. Yn ei hunangofiant 1927, Vol. I, ysgrifennodd Gandhi: Roedd y cwestiwn o ddiddordeb mawr i mi ... roedd gen i barch mawr at Mr Hills a'i haelioni. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n eithaf amhriodol gwahardd dyn o gymdeithas llysieuol dim ond oherwydd iddo wrthod ystyried moesau piwritanaidd fel un o wrthrychau y gymdeithas. Codwyd cynnig i gael gwared ar Allinson, a thrafodwyd a phleidleisiwyd arno gan y pwyllgor. Roedd swildod Gandhi yn ei rwystro rhag amddiffyn Allinson yng nghyfarfod y pwyllgor. Ysgrifennodd ei farn i lawr ar bapur ond roedd swildod yn ei atal rhag darllen ei ddadleuon, felly gofynnodd Hills, y Llywydd, i aelod arall o'r pwyllgor eu darllen allan drosto. Er bod rhai aelodau eraill o'r pwyllgor yn cytuno â Gandhi, collwyd y bleidlais ac eithriwyd Allinson. Nid oedd unrhyw falais, gyda Hills yn cynnig llwnc destun yng nghinio ffarwel LVS er anrhydedd i Gandhi ddychwelyd yn saff i India.[48]

Ei alw i'r bar[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Gandhi, yn 22 oed, i’r bar ym mis Mehefin 1891 ac yna gadawodd Lundain am India, lle dysgodd fod ei fam wedi marw tra roedd yn Llundain a bod ei deulu wedi cadw’r newyddion oddi wrtho.[46] Methodd ei ymdrechion i sefydlu swyddfa cyfreithwyr yn Bombay oherwydd nad oedd yn gallu croesholi tystion oherwydd ei swilder. Dychwelodd i Rajkot i wneud bywoliaeth gymedrol yn drafftio deisebau ar gyfer cyfreithwyr eraill, ond fe’i gorfodwyd i stopio pan gododd anghytundeb rhyngddo a swyddog o Loegr, Sam Sunny.[46]

Ym 1893, cysylltodd masnachwr Mwslimaidd yn Kathiawar o'r enw Dada Abdullah â Gandhi. Roedd Abdullah yn berchen ar fusnes llongau mawr llwyddiannus yn Ne Affrica ac roedd angen cyfreithiwr ar ei gefnder pell yn Johannesburg, ac roedd yn well ganddyn nhw rywun â threftadaeth Kathiawari. Holodd Gandhi am ei gyflog am y gwaith. Fe wnaethant gynnig cyfanswm cyflog o £105 (~ $17,200 yn arian 2019) ynghyd â chostau teithio. Derbyniodd Ghandi, gan wybod y byddai o leiaf yn ymrwymiad blwyddyn yn Nhrefedigaeth Natal, De Affrica, hefyd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.[49]

Ymgyrchydd hawliau sifil yn Ne Affrica (1893–1914)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dadorchuddiwyd y cerflun efydd hwn o Gandhi yn coffáu canmlwyddiant y digwyddiad yng Ngorsaf Reilffordd Pietermaritzburg gan yr Archesgob Desmond Tutu yn Church Street, Pietermaritzburg, ym Mehefin 1993

Yn Ebrill 1893, hwyliodd Gandhi, 23 oed, i Dde Affrica i fod yn gyfreithiwr i gefnder Abdullah.[49][50] Treuliodd 21 mlynedd yn Ne Affrica, lle datblygodd ei farn wleidyddol, moesol a gwleidyddol.[51][52]

Yn syth ar ôl cyrraedd De Affrica, wynebodd Gandhi wahaniaethu hiliol oherwydd lliw ei groen a'i dreftadaeth wahanol, fel pawb o liw. Ni chaniatawyd iddo eistedd gyda theithwyr Ewropeaidd mewn cerbyd a dywedwyd wrtho am eistedd ar y llawr ger y gyrrwr, yna ei guro pan wrthododd; mewn man arall cafodd ei gicio i mewn i gwter am feiddio cerdded ger tŷ person gwyn; mewn achos arall taflwyd ef oddi ar drên yn Pietermaritzburg ar ôl iddo wrthod gadael y dosbarth cyntaf.[36][53] Eisteddodd yn yr orsaf reilffordd, gan grynu trwy'r nos a meddwl a ddylai ddychwelyd i India neu brotestio am ei hawliau.[53] Dewisodd brotestio a chaniatawyd iddo fynd ar y trên drannoeth.[54] Mewn digwyddiad arall, gorchmynnodd ynad llys yn Durban i Gandhi dynnu ei benwisg, a gwrthododd ei wneud.[36] Ni chaniatawyd i Indiaid gerdded ar lwybrau cyhoeddus yn Ne Affrica. Cafodd Gandhi ei gicio gan heddwas allan o'r llwybr troed i'r stryd heb rybudd.[36]

Pan gyrhaeddodd Gandhi De Affrica, yn ôl Herman, roedd yn meddwl amdano'i hun fel "Prydeiniwr yn gyntaf, ac yn ail fel Indiad".[55] Fodd bynnag, roedd y rhagfarn yn ei erbyn ef a'i gyd-Indiaid gan Saeson yn ei boeni'n fawr. Roedd yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall rhai pobl deimlo anrhydedd neu ragoriaeth neu bleser mewn arferion mor annynol agwahaniaethu yn ôl lliw.[53] Dechreuodd Gandhi gwestiynu safle ei bobl yn yr Ymerodraeth Brydeinig.[56]

Daeth achos Abdullah (a ddaeth ag ef i Dde Affrica) i ben ym Mai 1894, a threfnodd y gymuned Indiaidd barti ffarwel i Gandhi wrth iddo baratoi i ddychwelyd i India.[57] Fodd bynnag, arweiniodd cynnig gwahaniaethol newydd gan lywodraeth Natal i Gandhi ymestyn ei gyfnod yn Ne Affrica. Roedd yn bwriadu cynorthwyo Indiaid i wrthwynebu bil i wrthod yr hawl iddynt bleidleisio. Gofynnodd i Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd Trefedigaethol Prydain, ailystyried ei safbwynt ar y bil hwn.[51] Er na allai atal hynt y bil, llwyddodd ei ymgyrch i dynnu sylw at gwynion Indiaid yn Ne Affrica. Cydsefydlodd Gyngres Indiaidd Natal ym 1894,[54] a thrwy'r sefydliad hwn, harneisiodd gymuned Indiaidd De Affrica yn rym gwleidyddol unedig. Yn Ionawr 1897, pan laniodd Gandhi yn Durban, ymosododd llu o ymsefydlwyr gwyn arno a dim ond trwy ymdrechion gwraig uwch-arolygydd yr heddlu y llwyddodd i ddianc.[58][58]

Gandhi gyda Chorfflu Ambiwlans India yn ystod Ail Ryfel y Boer.

Yn 1900 yn ystod Rhyfel y Boer, gwirfoddolodd Gandhi i ffurfio grŵp o gludwyr stretsieri fel rhan o Gorfflu Ambiwlans Indiaidd, Natal. Yn ôl Arthur Herman, roedd Gandhi eisiau gwrthbrofi’r stereoteip ymerodrol Seisnig, nad oedd Hindwiaid yn ffit ar gyfer gweithgareddau “i ddynion” a oedd yn cynnwys perygl ac ymdrech, yn wahanol i’r “martial races” Mwslimaidd, bondigrybwyll.[59] Cododd Gandhi griw o 1,000 o wirfoddolwyr Indiaidd, i gefnogi milwyr Lloegr yn erbyn y Boeriaid. Fe'u hyfforddwyd a'u hardystio'n feddygol i wasanaethu ar y rheng flaen. Cynorthwyodd yr Indiaid hyn ym Mrwydr Colenso gfel rhan o gorfflu ambiwlans gwirfoddol Gwyn. Ym mrwydr Spion Kop symudwyd Gandhi a'i gludwyr i'r rheng flaen a bu'n rhaid iddynt gario milwyr clwyfedig am filltiroedd i ysbyty maes oherwydd bod y tir yn rhy arw i'r ambiwlansys. Derbyniodd Gandhi a thri deg saith o Indiaid eraill Fedal De Affrica'r Frenhines.[60][61]

Gandhi (chwith) a'i wraig Kasturba (dde) (1902)

Ym 1906, cyhoeddodd llywodraeth Transvaal Ddeddf newydd a oedd yn gorfodi'r boblogaeth Indiaidd a Tsieineaidd i gofrestru. Mewn cyfarfod protest torfol a gynhaliwyd yn Johannesburg ar 11 Medi y flwyddyn honno, mabwysiadodd Gandhi ei fethodoleg esblygol o Satyagraha (defosiwn i’r gwir), ei brotest ddi-drais, cyntaf.[62] Yn ôl Anthony Parel, dylanwadwyd ar Gandhi hefyd gan destun moesol Tamil Tirukkuṛaḷ ar ôl i Leo Tolstoy ei grybwyll yn eu gohebiaeth a ddechreuodd gyda'r geiriau "A Letter to a Hindu".[63][64] Anogodd Gandhi yr Indiaid i herio’r gyfraith newydd ac i ddioddef y gosb am wneud hynny. Roedd syniadau Gandhi am brotestio, sgiliau perswadio a chysylltiadau cyhoeddus wedi aeddfedu ac wedi dod i'r amlwg. Aeth â'r rhain yn ôl i India ym 1915.[65]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
  • M.K. Gandhi (1929) An Autobiography, or the Story of My Experiments with Truth
  1. "Gandhi".
  2. B. R. Nanda (2019), "Mahatma Gandhi", Encyclopædia Britannica, https://www.britannica.com/biography/Mahatma-Gandhi Quote: "Mahatma Gandhi, byname of Mohandas Karamchand Gandhi, (born Hydref 2, 1869, Porbandar, India – died Ionawr 30, 1948, Delhi), Indian lawyer, politician.
  3. 3.0 3.1 Ganguly, Debjani; Docker, John (2008), Rethinking Gandhi and Nonviolent Relationality: Global Perspectives, Routledge, pp. 4–, ISBN 978-1-134-07431-0, https://books.google.com/books?id=cId9AgAAQBAJ&pg=PA4 Quote: "... marks Gandhi as a hybrid cosmopolitan figure who transformed ... anti-colonial nationalist politics in the twentieth-century in ways that neither indigenous nor westernized Indian nationalists could."
  4. Parel, Anthony J (2016), Pax Gandhiana: The Political Philosophy of Mahatma Gandhi, Oxford University Press, pp. 202–, ISBN 978-0-19-049146-8, https://books.google.com/books?id=bMGSDAAAQBAJ&pg=PA202 Quote: "Gandhi staked his reputation as an original political thinker on this specific issue.
  5. Stein, Burton (2010), A History of India, John Wiley & Sons, pp. 289–, ISBN 978-1-4443-2351-1, https://books.google.com/books?id=QY4zdTDwMAQC&pg=GBS.PA289, "Gandhi was the leading genius of the later, and ultimately successful, campaign for India's independence."
  6. McGregor, Ronald Stuart (1993). The Oxford Hindi-English Dictionary. Oxford University Press. t. 799. ISBN 978-0-19-864339-5. Cyrchwyd 31 Awst 2013.
  7. Gandhi, Rajmohan (2006). Gandhi: The Man, His People, and the Empire. t. 172. ISBN 978-0-520-25570-8. ...Kasturba would accompany Gandhi on his departure from Cape Town for England in Gorffennaf 1914 en route to India. ... In different South African towns (Pretoria, Cape Town, Bloemfontein, Johannesburg, and the Natal cities of Durban and Verulam), the struggle's martyrs were honoured and the Gandhi's bade farewell. Addresses in Durban and Verulam referred to Gandhi as a 'Mahatma', 'great soul'. He was seen as a great soul because he had taken up the poor's cause. The whites too said good things about Gandhi, who predicted a future for the Empire if it respected justice.
  8. Maeleine Slade, Mirabehn. Gleanings Gathered at Bapu's Feet. Ahmedabad: Navjivan publications. Cyrchwyd 4 Mawrth 2019.
  9. "Gandhi not formally conferred 'Father of the Nation' title: Govt". The Indian Express. 11 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Medi 2014.
  10. "Constitution doesn't permit 'Father of the Nation' title: Government". The Times of India. 26 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2017.
  11. Nehru, Jawaharlal. An Autobiography. Bodley Head.
  12. 12.0 12.1 McAllister, Pam (1982). Reweaving the Web of Life: Feminism and Nonviolence. New Society Publishers. t. 194. ISBN 978-0-86571-017-7. Cyrchwyd 31 Awst 2013.
  13. Eck, Diana L. (2003). Encountering God: A Spiritual Journey from Bozeman to Banaras. Beacon Press. t. 210. ISBN 978-0-8070-7301-8. Cyrchwyd 31 Awst 2013.
  14. [1][dolen marw]
  15. Todd, Anne M. (2012). Mohandas Gandhi. Infobase Publishing. t. 8. ISBN 978-1-4381-0662-5. The name Gandhi means "grocer", although Mohandas's father and grandfather were politicians not grocers.
  16. Gandhi, Rajmohan (2006) pp. 1–3.
  17. Guha, Ramachandra (2014-10-15). Gandhi before India (yn Saesneg). Penguin Books Limited. ISBN 978-93-5118-322-8.
  18. Renard, John (1999). Responses to One Hundred and One Questions on Hinduism By John Renard. t. 139. ISBN 978-0-8091-3845-6. Cyrchwyd 16 Awst 2020.
  19. Gandhi, Mohandas K. (2009). An Autobiography: The Story of My Experiments With Truth. t. 21. ISBN 978-1-77541-405-6.
  20. 20.0 20.1 Guha 2015 pp. 19–21
  21. Misra, Amalendu (2004). Identity and Religion: Foundations of anti-Islamism in India. t. 67. ISBN 978-0-7619-3227-7.
  22. Guha 2015, p. 21
  23. Guha 2015, p. 512
  24. Guha 2015, p. 22
  25. Rudolph, Susanne Hoeber; Rudolph, Lloyd I. (1983). Gandhi: The Traditional Roots of Charisma. University of Chicago Press. t. 48. ISBN 978-0-226-73136-0.
  26. Gandhi, Rajmohan (2006) pp. 2, 8, 269
  27. 27.0 27.1 Arvind Sharma (2013). Gandhi: A Spiritual Biography. Yale University Press. tt. 11–14. ISBN 978-0-300-18738-0.
  28. Rudolph, Susanne Hoeber; Rudolph, Lloyd I. (1983). Gandhi: The Traditional Roots of Charisma. University of Chicago Press. t. 17. ISBN 978-0-226-73136-0.
  29. Gerard Toffin (2012). John Zavos (gol.). Public Hinduisms. Sage Publications. tt. 249–57. ISBN 978-81-321-1696-7.
  30. Guha 2015, p. 23
  31. Guha 2015, pp. 24–25
  32. 32.0 32.1 Rajmohan Gandhi (2015). Gandhi before India. Vintage Books. tt. 24–25. ISBN 978-0-385-53230-3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "ReferenceA" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  33. Louis Fischer (1982). Gandhi, his life and message for the world. New American Library. t. 96. ISBN 978-0-451-62142-9.
  34. Rajmohan Gandhi (2015). Gandhi before India. Vintage Books. tt. 25–26. ISBN 978-0-385-53230-3.
  35. Sankar Ghose (1991). Mahatma Gandhi. Allied Publishers. t. 4. ISBN 978-81-7023-205-6.
  36. 36.0 36.1 36.2 36.3 36.4 36.5 Gandhi (1940).
  37. Ramachandra Guha (2015). Gandhi before India. Vintage Books. tt. 28–29. ISBN 978-0-385-53230-3.
  38. 38.0 38.1 Guha 2015, p. 29
  39. Guha 2015, p. 30
  40. 40.0 40.1 Guha 2015, p. 32
  41. Rajmohan Gandhi (2015). Gandhi before India. Vintage Books. t. 32. ISBN 978-0-385-53230-3.
  42. 42.0 42.1 Guha 2015, pp. 33–34
  43. Rajmohan, Gandhi (2006). Gandhi: The Man, His People, and the Empire. tt. 20–21. ISBN 978-0-520-25570-8.
  44. Thomas Weber (2004). Gandhi as Disciple and Mentor. Cambridge University Press. tt. 19–25. ISBN 978-1-139-45657-9.
  45. From auto-biography Chapter 22, https://www.mkgandhi.org/autobio/chap22.htm
  46. 46.0 46.1 46.2 46.3 Brown (1991).
  47. "Shyness my shield". Autobiography. 1927.
  48. "International Vegetarian Union – Mohandas K. Gandhi (1869–1948)". ivu.org. Cyrchwyd 26 Medi 2020.
  49. 49.0 49.1 Herman (2008), pp. 82–83
  50. Giliomee, Hermann; Mbenga, Bernard (2007). "3". In Roxanne Reid (gol.). New History of South Africa (arg. 1st). Tafelberg. t. 193. ISBN 978-0-624-04359-1.
  51. 51.0 51.1 Power, Paul F. (1969). "Gandhi in South Africa". The Journal of Modern African Studies 7 (3): 441–55. doi:10.1017/S0022278X00018590. JSTOR 159062. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Gandhi" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  52. "Into that Heaven of Freedom: The impact of apartheid on an Indian family's diasporic history", Mohamed M Keshavjee, 2015, by Mawenzi House Publishers, Ltd., Toronto, ON, Canada, ISBN 978-1-927494-27-1
  53. 53.0 53.1 53.2 S. Dhiman (2016). Gandhi and Leadership: New Horizons in Exemplary Leadership. Springer. tt. 25–27. ISBN 978-1-137-49235-7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "dhiman25" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  54. 54.0 54.1 Fischer (2002)
  55. Herman (2008), pp. 87–88
  56. Allen, Jeremiah (2011). Sleeping with Strangers: A Vagabond's Journey Tramping the Globe. Other Places Publishing. t. 273. ISBN 978-1-935850-01-4.
  57. Herman (2008), pp. 88–89
  58. 58.0 58.1 Nodyn:Cite wikisource
  59. Herman (2008), page 125
  60. Herman (2008) chapter 6.
  61. "South African Medals that Mahatma Returned Put on View at Gandhi Mandap Exhibition" (PDF). Press Information Bureau of India – Archive. 5 Mawrth 1949. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2020.
  62. Rai, Ajay Shanker (2000). Gandhian Satyagraha: An Analytical And Critical Approach. Concept Publishing Company. t. 35. ISBN 978-81-7022-799-1.
  63. Tolstoy, Leo (14 December 1908). "A Letter to A Hindu: The Subjection of India-Its Cause and Cure". The Literature Network. The Literature Network. Cyrchwyd 12 Chwefror 2012. The Hindu Kural
  64. Parel, Anthony J. (2002), "Gandhi and Tolstoy", in M. P. Mathai; M. S. John; Siby K. Joseph, Meditations on Gandhi : a Ravindra Varma festschrift, New Delhi: Concept, pp. 96–112, ISBN 978-81-7022-961-2, https://books.google.com/books?id=kcpDOVk5Gp8C&pg=PA96, adalwyd 8 Medi 2012
  65. Charles R. DiSalvo (2013). M.K. Gandhi, Attorney at Law: The Man before the Mahatma. tt. 14–15. ISBN 978-0-520-95662-9.