Y Corân
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Testun sanctaidd canolog Islam yw'r Corân[1][2] neu weithiau yn Gymraeg Cwrân[2] neu Alcoran[3] (Arabeg: القرآن al-qur'ān, yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. Qur'an neu Al-Qur'an). Cred Mwslimiaid fod y Corân yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r ddynolryw, ac ystyriant fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf Duw (Allah). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Corân ei ddatguddio i'r Proffwyd Muhammad gan yr angel Gabriel yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.
Mae Mwslimiaid yn gweld y Corân fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i Adda, a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r Suhuf-i-Ibrahim (Sgroliau Abraham), y Tawrat (Torah neu ran gyntaf yr Hen Destament), y Zabur (Llyfr y Salmau), ac yn olaf yr Injil (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r Testament Newydd). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Corân ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol.
Yn ogystal, mae'r Corân yn cyfeirio at sawl digwyddiad a geir yn yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, gan ailadrodd yr hanesion mewn ffordd sy'n gwahaniaethu rhywfaint o'r hyn a geir yn y testunau hynny, a gan grybwyll yn ogystal, yn llai manwl, ddigwyddiadau eraill ynddynt.
Un gwahaniaeth mawr rhwng y Corân a'r Beibl a'r Torah yw'r ffaith nad ydyw fel rheol yn cynnig disgrifiadau manwl o ddigwyddiau; ceir y pwyslais i gyd ar arwyddocâd ysbrydol a moesol digwyddiadau yn hytrach na threfn gronolegol neu naratifol. Ceir manylion llawnach o lawer am ddigwyddiadau hanesyddol neu led-hanesyddol yn yr Hadithau gan Muhammad ac yn adroddiadau'r Sahabah (Cydymdeithion Muhammad).
Mae penillion y Corân, sydd mewn rhyddiaith odledig, yn deillio o'r traddodiad llafar, a chawsant eu cadw ar gof gan gydymdeithion Muhammad a'u trosglwyddo ar lafar am genhedlaeth neu ddwy. Yn ôl y traddodiad Sunni, coladwyd y Corân a'i gofnodi ar femrwn yn amser y Califf Abu Bakr, dan arweiniad Zayd ibn Thabit Al-Ansari. Cafodd y llawysgrif(au) ei throsglwyddo wedyn ar ôl marwolaeth Abu Bakr, ond mae'r manylion yn amrywio gyda fersiwn y Shia yn wahanol i fersiwn y Sunni.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfieithiad Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel yn achos y Beibl, ceir nifer o argraffiadau o'r Corân mewn sawl iaith, ond hyd yn hyn ni cheir y testun cyfan yn y Gymraeg. Ceir detholiad a gyhoeddir gan y Gymuned Fwslim Ahmaddiya ym Mhrydain yn:
- Adnodau detholedig o'r Quran Sanctaidd (Islam International Publications, Llundain, 1988). ISBN 1-85372-131-X
Astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Al-Azami, M. M. The History of the Qur'anic Text from Revelation to Compilation, UK Islamic Academy: Leicester 2003.
- Gunter Luling. A challenge to Islam for reformation: the rediscovery and reliable reconstruction of a comprehensive pre-Islamic Christian hymnal hidden in the Koran under earliest Islamic reinterpretations. New Delhi: Motilal Banarsidass Publishers 2003. (580 Seiten, lieferbar per Seepost). ISBN 81-208-1952-7
- Luxenberg, Christoph. The Syro-Aramaic Reading Of The Koran: a contribution to the decoding of the language of the Qur'an, Berlin, Verlag Hans Schiler, 2007. ISBN 3-89930-088-2
- McAuliffe, Jane Damen. Quranic Christians : An Analysis of Classical and Modern Exegesis, Cambridge University Press, 1991. ISBN 0-521-36470-1
- McAuliffe, Jane Damen (gol.). Encyclopaedia of the Qur'an, Brill, 2002-2004.
- Puin, Gerd R. "Observations on Early Qur'an Manuscripts in Sana'a," yn The Qur'an as Text, ed. Stefan Wild, , E.J. Brill 1996.
- Rahman, Fazlur. Major Themes in the Qur'an, Bibliotheca Islamica, 1989. ISBN 0-88297-046-1
- Stowasser, Barbara Freyer. Women in the Qur'an, Traditions, and Interpretation, Oxford University Press; ail argraffiad (1996), ISBN 0-19-511148-6
- Wansbrough, John. Quranic Studies, Oxford University Press, 1977
- Watt, W. M., a R. Bell. Introduction to the Qur'an, Edinburgh University Press, 2001. ISBN 0-7486-0597-5
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Corân. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, "Koran (the)".
- ↑ Alcoran. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.