Neidio i'r cynnwys

Goliath

Oddi ar Wicipedia
Goliath
Ganwyd11 g CC Edit this on Wikidata
Desamparados Canton Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1023 CC Edit this on Wikidata
Desamparados Canton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPhilistia Edit this on Wikidata
Taldra2.1 metr, 2.8 metr Edit this on Wikidata
Mamהרפה Edit this on Wikidata
Dafydd yn gorchfygu Goliath, paentiad gan Michelangelo

Cawr o Ffilistiad y ceir hanes ei orchfygu gan y Brenin Dafydd yn yr Hen Destament oedd Goliath. Yn ôl yr hanes roedd yn 6 cwfyd o daldra. Ceir yr hanes yn Llyfr Cyntaf Samuel.

Goliath oedd pencampwr mawr byddin y Ffilistiaid a wynebodd fyddin y Brenin Sawl yn Nyffryn Elah. Roedd nerth y ddwy fyddin yn gyfartal ac roeddent yn ofni ymosod. Felly bob diwrnod byddai Goliath yn sefyll rhwng y ddwy fyddin a herio un o ryfelwyr yr Hebreaid i ymladd ag ef. Gorchfygodd bob rhyfelwr a dderbyniodd yr her. O'r diwedd, daeth Dafydd, bugail ifanc a ddaeth yno i wylio'r frwydr, i fyny a gofyn caniatad i ymladd â Goliath. Gwrthododd wisgo arfwisg Sawl gan ymddiried yn Nuw am ei fuddugoliaeth. Cerddodd allan rhwng y ddwy fyddin i wyneb'r cawr, a wisgai arfwisg gryf amdano, gyda dim byd ond ffon dafl fel arf. Dirmygwyd ef gan Goliath fel wrthwynebydd pitw. Ond rhedodd Dafydd o gwmpas y cawr yn wisgi gan osgoi ei gleddyf mawr. Yna tarodd ef yn ei dalcen â charreg o'i ffon dafl a syrthiodd Goliath i'r llawr. Cyn iddo gael y cyfle i ddadebru, cymerodd Dafydd y cleddyf anferth a thorri ei ben.

Ffôdd y Ffilistiaid mewn dychryn mawr. Cymerodd Dafydd ben Goliath a'i roi i Sawl yn ei babell. Daeth merched yr Hebreaid i ddawnsio a dathlu'r fuddugoliaeth.

Er na wyddom faint o sail hanesyddol sydd i'r hanes, gwyddys fod ymladd rhwng rhyfelwyr unigol rhwng dwy fyddin fel hyn yn digwydd yn yr Henfyd, fel y tyst hanes Rhyfel Caerdroea fel y'i ceir yn yr Iliad.

Mae chwedl Dafydd a Goliath wedi ysbrydoli sawl artist a llenor. Yn symbolaidd, mae'r stori yn cynrychioli buddugoliaeth y gweinion gyda Duw o'u plaid yn erbyn trahawster cryfion y byd (fel Crist yn gorchfygu'r Diafol).

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Geiriadur Beiblaidd, gol. Thomas Rees ac eraill (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1926)
  • J. C. J. Mitford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983)