Iliad

Un o'r ddwy gerdd fawr a briodolir i'r bardd Groeg Homeros ydy'r Iliad (Groeg Ιλιάδα). Y llall ydy'r Odyseia.
Braslun o'r cynllun
[golygu | golygu cod]Yn yr Iliad, ceir rhan o hanes Rhyfel Caerdroea, a achoswyd pan gafodd Elen, gwraig hardd Menelaos brenin Sparta, ei hudo gan yr arwr Paris a'i chymryd i Gaerdroea.
Mae byddin Roegaidd dan arweiniad Agamemnon hwylio o Wlad Roeg ac yn gwarchae ar ddinas Caerdroea, ar affordir gogledd-orllewin Anatolia. Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achiles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Ymysg arwyr eraill y Groegiaid mae Aias ac Odysseus. Prif arwr Caerdroea yw Hector, mab y brenin Priam.

Llinellau cyntaf yr Iliad yw:
μῆνιν ἄειδε θεὰ Πηληϊάδεω Ἀχιλῆος
οὐλομένην, ἣ μυρί' Ἀχαιοῖς ἄλγε' ἔθηκεν,
Cenwch, dduwies, am ddicter Achiles mab Pelews,
a ddaeth â chystuddiau dirifedi i'r Achaeaid.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Troswyd rhannau o'r Iliad i'r Gymraeg gan R. Morris Lewis:
- R. Morris Lewis, Iliad Homer, gyda rhagymadrodd a nodiadau gan T. Gwynn Jones (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1928)