Achilles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Achilles a chorff Hector; engrafiad gan Johann Balthasar Probst

Arwr Groegaidd y dywedir iddo ymladd yn Rhyfel Caerdroea oedd Achilles, hen ffurf Gymraeg Achil (Hen Roeg: Ἀχιλλεύς). Ef yw prif arwr y Groegiaid yn yr Iliad gan Homeros, sy'n cymeryd Dicter Achilles fel ei thestun.

Roedd Achilles yn fab i Peleus, brenin y Myrmidoniaid, a'r nymff Thetis. Yn ôl un chwedl, pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo.

Wedi i Paris gipio Helen, gwraig Menelaos brenin Sparta a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin, mae Menelaos yn gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith Achilles a'i gyfaill mynwesol Patroclus. Digia Achilles pan mae Agamemnon yn cymeryd y gaethferch Briseis oddi wrtho, ac mae'n gwrthod mynd allan i ymladd. Cymer Patroclus ei le, ond lleddir ef gan Hector, mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector ei hun gan Achilles, ac mae'n llusgo ei gorff o amgylch Caerdroea, nes yn y diwedd cytuno i'w ddychwelyd ar gais Priam.

Yn nes ymlaen yn yr ymladd, saethir Achilles yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.

Llinellau cyntaf yr Iliad yw:

μῆνιν ἄειδε θεὰ Πηληϊάδεω Ἀχιλῆος
οὐλομένην, ἣ μυρί' Ἀχαιοῖς ἄλγε' ἔθηκεν,
Cenwch, dduwiesau, am ddicter mab Peleus, Achilles
y dicter melltigedig ddaeth a phoen i filoedd o'r Acheaid.