Hector
| Hector | |
|---|---|
| Bu farw | Caerdroea |
| Dinasyddiaeth | Caerdroea |
| Tad | Priam |
| Mam | Hecuba |
| Priod | Andromache |
| Plant | Astyanax, Oxynius, Laodamas, Amphineus |
| Gwobr/au | heroic honors |

Cymeriad ym Mytholeg Roeg yw Hectōr (Hen Roeg: Ἕκτωρ) neu Ector. Mae'n ymddangos yn yr Iliad gan Homeros fel prif arwr Caerdroea yn Rhyfel Caerdroea yn erbyn y Groegiaid.
Mae Hector yn fab i Priam, brenin Caerdroea, ac yn briod ag Andromache; mae ganddynt fab bychan, Astyanax.
Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yn yr ymladd o gylch Caerdroea yw Achiles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Digia Achiles pan mae arweinydd y Groegiaid, Agamemnon, yn cymeryd y gaethferch Briseis oddi wrtho, ac mae'n gwrthod mynd allan i ymladd. Cymer Patroclus, cyfaill mynwesol Achiles, ei le yn yr ymladd, ond lleddir ef gan Hector]. Dychwel Achiles i'r frwydr, ac mae'n lladd Hector tu allan i furiau Caerdroea, gyda chymorth y dduwies Athena. Mae Achiles yn llusgo ei gorff o amgylch Caerdroea, nes yn y diwedd cytuno i'w ddychwelyd ar gais Priam i'w gladdu'n anrhydeddus.
Ym marddoniaeth Beirdd y Tywysogion mae Ector (Hector) yn batrwm o uchelwraeth. Ceir cyfeiriadau ato gan sawl bardd, yn cynnwys Cynddelw Brydydd Mawr a Dafydd Benfras. Cyfeirir ato yn un o Drioedd Ynys Prydain hefyd, fel un o'r 'Tri Dyn a gafas Cedernid Addaf' (Y Tri Dyn a gafodd gadernid [cryfder] Addaf), gyda Ercwlff (Hercules) a Samson.