Priam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Priam yn dod i babell Achilles i ofyn am gorff Hector.

Ym mytholeg Roeg, Priam (Groeg: Πρίαμος Priamos) oedd brenin Caerdroea yn ystod Rhyfel Caerdroea yn erbyn y Groegiaid; mae'n gymeriad yn yr Iliad.

Roedd Priam yn fab ieuengaf i Laomedon. Ei wraig gyntaf oedd Arisbe, a roddodd fab o'r enw Aesacus iddo, oedd wedi marw cyn Rhyfel Caerdroea. Ysgarodd Priam hi, a phriododd Hecuba, a roddodd nifer o blant iddo. Yr hynaf oedd Hector; ymhlith y gweddill roedd Paris, y broffwydes Cassandra a Creusa, gwraig Aeneas.

Pan leddir Hector gan Achilles yn y rhyfel, mae Zeus yn gyrru'r duw Hermes i ddanfon Priam i wersyll yr Acheaid, i erfyn arno ddychwelyd corff ei fab. Cytuna Achilles i'e gais. Pan syrth dinas Caerdorea, lleddir Priam gan Neoptolemus, mab Achilles.