Neidio i'r cynnwys

Trioedd Ynys Prydain

Oddi ar Wicipedia
Trioedd Ynys Prydain
Rhan o lawysgrif Llyfr Coch Hergest, sy'n cynnwys y Trioedd.
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1380s Edit this on Wikidata

Trioedd Ynys Prydain (hen ffurf: Trioedd Ynys Prydein) yw'r enw ar gasgliad arbennig o drioedd sy'n ffurfio math o fynegai neu wyddionadur llawfer o wybodaeth y beirdd Cymraeg am hanes a thraddodiadau cynnar Cymru ac Ynys Prydain. Fel yn achos trioedd eraill, mae'r deunydd yn cael ei ddosbarthu yn unedau o dri, gan restru enwau arwyr traddodiadol a digwyddiadau, ac mae gan bob triawd ei deitl. Mae 96 triawd wedi goroesi. Ceir llawer o'r Trioedd hyn yn Llyfr Coch Hergest yn dyddio i'r 14g ac a gedwir yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen gyda'r cyfeirnod MS 111. Roedd yr arferiad o ddosbarthu pethau yn drioedd, fel hyn, yn ddyfais bwysig yn niwylliant Celtaidd Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Credir i'r Trioedd gael eu casglu at ei gilydd yn y 12g , gyda llawer o'r triawdau yn llawer hŷn na hynny.[1]

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg fod gwreiddiau Trioedd Ynys Prydain yn hen iawn. Ynddyn nhw ceir math o grynodeb o ddysg y beirdd, fel math o lawlyfr cryno i hanes traddodiadol y Cymry. Diau mai rhan o'i bwrpas yw gwasanaethu fel cymorth i gofio chwedlau a thraddodiadau a'r berthynas rhyngddyn nhw. Dylid cofio fod y bardd cynnar yn gyfarwydd (adroddwr chwedlau, chwedleuydd) yn ogystal â bod yn brydydd. Roedd dysg y beirdd yn cael ei throsglwyddo ar lafar ac felly roedd angen ffurf a fyddai'n hawdd i'w gofio.

Craidd Trioedd Ynys Prydain yw chwedlau neu draddodiadau am gymeriadau Cymreig neu Frythonaidd sy'n perthyn i fyd mytholeg, hanes traddodiadol Cymru, Iwerddon ac Ynys Prydain o safbwynt Cymreig gyda'r pwyslais ar Gaswallon, Gwrtheyrn a Macsen Wledig a'u cylch, a chymeriadau a digwyddiadau sy'n gysyllteidig â'r Hen Ogledd ac Oes Arwrol y 6ed a'r 7g. Yn perthyn i'r dosbarth olaf y mae traddodiadau Cymreig am Arthur a'i lys.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Y golygiad safonol yw:

  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1978). Ceir y testunau Cymraeg gyda chyfieithiadau Saesneg, rhagymadrodd helaeth a nodiadau llawn.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]