Neidio i'r cynnwys

Canu rhydd Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Canu Rhydd Cymraeg)

Canu nad yw yn y mesurau caeth traddodiadol yw Canu Rhydd Cymraeg.

Mae'n ddiamau fod canu rhydd, cerddi heb gynghanedd lawn ar fesurau syml, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn yr 16g ceir toreth o gerddi ar fesurau a cheinciau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd cyffelyb yn Lloegr: gelwir hyn y Canu Rhydd Newydd. O'r 16g ymlaen, er gwaethaf dadeni clasurol y 18g a welodd beirdd fel Goronwy Owen yn adfywio'r hen fesurau, gellir rhannu cwrs barddoniaeth Gymraeg yn ddwy brif ffrwd, sef y canu caeth a'r canu rhydd.

Yr Hen Ganu Rydd

[golygu | golygu cod]

Ceir digon o dystiolaeth fod mesurau rhydd digynghanedd wedi bodoli ers cyfnod cynnar iawn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Rhaid cofio yn ogystal mae cyfundrefn artiffisial braidd oedd y pedwar mesur ar hugain a sefydlwyd fel canon yn oes y Cywyddwyr a bod y Gogynfeirdd yn defnyddio amrywiaeth o fesurau eraill. Ceir enghreifftiau o rai o Feirdd yr Uchelwyr yn torri rheolau Cerdd Dafod hefyd, gan hebgor y brifodl yn llwyr neu ddefnyddio cynghanedd lac, er enghraifft. Cynnyrch y Glêr, beirdd is eu statws, oedd llawer o'r canu rhydd cynnar. Ceir sawl enghraifft yn y Canu Darogan hefyd. Un o'r hoff fesurau oedd y draethodl a cheir rhyddid mawr yn y nifer o sillafau mewn llinell, yr odl, a rheolau cynghanedd. Cywreinio'r draethodl a roddodd fod i'r cywydd yn y 14g. Rhyw hanner ffordd rhwng y mesurau caeth traddodiadol a chanu rhydd go iawn yw'r canu hyn, ac mae'n gynhenid Gymraeg.

Canu Rhydd Newydd

[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac yn neilltuol yn yr 16g, gwelir beirdd proffesiynol yn digon bodlon i ganu ar y mesurau rhydd, er enghraifft Siôn Tudur, Wiliam Phylip a Llywelyn Siôn. Canu rhai uchelwyr ar y mesurau rhydd Cymraeg hefyd, fel Rowland Vaughan o Gaer Gai. Ceir beirdd o safon is yn canu ar y mesurau hyn yn bennaf neu'n gyfangwbl, er enghraifft Robin Clidro.

O ganol yr 16g ymlaen gwelir math newydd o ganu rhydd yn datblygu, dan ddylanwad canu rhydd Lloegr. Dechreuwyd defnyddio ceinciau Seisnig poblogaidd ar gyfer cerddi Cymraeg, arfer a barhaodd hyd y 18g gan feirdd fel Huw Morus (Eos Ceiriog) ac a welir hefyd yng ngwaith nifer o feirdd y ganrif olynol, fel Talhaiarn a Mynyddog. Ond nid canu rhydd diarddurn mohono. Mae rhai o'r hen gerddi rhydd yn ddigon cywrain, yn gymysgedd o elfennau cynghaneddol ac odlau a rhyddid y canu rhydd pur. Ceir enghraifft ragorol o waith Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd:

Llwyn nid pell, nodau heb ballu,
Llwyn Ebrillaidd llawn briallu,
Lle gwawd teg a llygad dydd;
Glyn a meillion Glanme am allu
A gwyrdd ddillad gwir ddiwallu
Yn llenwi llawenydd.[1]

Mathau o ganu rhydd yw'r Hen Benillion hefyd, sy'n parhad o draddodiad o ganu digynghanedd neu gynghanedd lac a welir yng ngwaith y Glêr ac eraill yn yr Oesoedd Canol.

Canu rhydd a geir yn y cyfieithiadau Cymraeg o'r Salmau hefyd. Yn ddiweddarach cawn fod emynwyr mawr Cymru fel Williams Pantycelyn yn defnyddio mesurau rhydd yn effeithiol iawn, ac o hynny ymlaen mae'r canu rhydd yn ennill ei le ochr yn ochr â'r canu caeth mewn barddoniaeth Gymraeg.

Canu rhydd diweddar

[golygu | golygu cod]

Yn yr 20g dylanwadwyd ar rai i feirdd Cymru gan y mathau arbrofol o ganu rhydd a ddaeth yn boblogaidd mewn gwledydd fel Ffrainc a Lloegr. Un o'r beirdd mwyaf "chwyldroadol" yn ei ddewis o gyfrwng oedd Euros Bowen. Aeth ati i ymryddrhau'n llwyr o afael yr hen fesurau. Dywedodd yn ei ragair i'w gyfrol Cerddi Rhydd (1961), ei fod yn ceisio gwneud heb

yr un peth yn arbennig a oedd yn perthyn i'r hen ddull o lunio barddoniaeth, sef y llinell. Golygai hynny sgrifennu yn nhrefn mynegiant rhithmig yn unig, a'r cymal, neu'r frawddeg, neu'r paragraff felly'n unedau mynegiant a rhythm.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar, t. 397.
  2. Euros Bowen, Cerddi Rhydd (1961). Dyfynnwyd gan Gwynn ap Gwilym yn y rhagymadrodd i Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]