Wiliam Phylip

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr a bardd o blas Hendre Fechan (neu 'Hendrefechan') yn Ardudwy, Meirionnydd (de Gwynedd) oedd Wiliam Phylip (1579 - Chwefror 1669). Mae'n bosibl, yn ôl rhai ffynonellau, ei fod yn perthyn i deulu barddol enwog Phylipiaid Ardudwy, ond does dim sicrwydd am hynny a cheir peth amheuaeth am ddilysrwydd y traddodiad.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gŵr bonheddig oedd Wiliam Phylip, a'i rieni wedi symud o dref Corwen i Ardudwy cyn ei eni. Bu fyw yn Hendre Fechan bron ar hyd ei oes. Roedd yn Frenhinwr a wrthwynebodd y Seneddwyr yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd yn ffyddlon i'r Eglwys sefydlog ac yn casau'r Piwritaniaid a'r Catholigion fel ei gilydd.

Fel bardd, canai ar y mesurau rhydd yn hytrach na'r mesurau caeth traddodiadol. Nid oedd yn fardd proffesiynol ond mae safon ei gerddi yn uchel a cheir tinc personol anghyffredin mewn rhai ohonynt. Un o'r hoff fesurau oedd y ddyri.

Canodd farwnad i'r brenin Siarl I o Loegr ar ei ddienyddiad ac enillodd hynny elynion iddo. Bu rhaid iddo ffoi o'i gartref yn Hendrefechan yn y Rhyfel Cartref a chysgodi ym mryniau Ardudwy. Canodd foliant y brenin Siarl II pan adferywd y frenhiniaeth yn 1660. Yn 1670 canod Ffarwel i Hendre Fechan ar ffurf englynion:

Yn lle fy Hendre hyndriol - a'r boen
Yma i'r byd daearol,
Mi gaf Hendref, wlad Nefol,
Gan Dduw nef, ac ni ddo i'n ôl.[1]

Yn 92 oed, bu farw yn ŵr tlawd a'r Goron a etifeddodd ei eiddo - gan nad oedd ganddo etifedd. Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanddwywe, Ardudwy, ar 11 Chwefror, 1669 : gwelir ei feddrod yno o hyd. Cedwir ar glawr cywydd marwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd rhai o gerddi Wiliam Phylip yn y cyfrolau Carolau a Dyrïau Duwiol a Blodeu-gerdd Cymry (1779).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. twitter.co; adalwyd 12 Chwefror 2015
Phylipiaid Ardudwy: erthygl yn y Bywgraffiadur Cymreig arlein (LlGC).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]