Rhyfel Cartref Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Cartref Lloegr
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd y Tair Teyrnas Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1642 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Medi 1651 Edit this on Wikidata
LleoliadTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, Trial of Charles I, King of England, Scotland and Ireland Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Print Almaenig o'r 17g yn dangos dienyddiad Siarl I

Ymladdwyd Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651. Mewn gwirionedd roedd yn dri rhyfel cartref: Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–6), Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–9) a Thrydydd Rhyfel Cartref Lloegr Rhyfel (1650–51). Roedd y rhyfeloedd yn Lloegr yn rhan o gyfres o ryfeloedd a elwir yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).

Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn groes i'w hewyllys yn nheyrnas Lloegr ar y pryd, o ganlyniad i Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 (a elwid ers talwm yn 'Ddeddfau Uno') ac ystyrir yr ymladd yng Nghymru yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr.

Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban (neu Charles) a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Ymladdwyd y rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon hefyd.

Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd hwn rhwng 1642 a 1646, rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffôdd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Catref Cyntaf i ben.

Ail Ryfel Cartref Lloegr[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd yr ail ryfel cartref yn 1648–1649, eto rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Dechreuodd hwn yng Nghymru yng ngwanwyn 1648, pan newidiodd milwyr y Senedd, oedd heb gael eu talu, i gefnogi'r brenin. Gorchfygwyd hwy gan y Cyrnol Thomas Horton ym Mrwydr San Ffagan (8 Mai), ac ildiodd yr arweinwyr i Oliver Cromwell ar 11 Gorffennaf ar ôl gwarchae Penfro. Dienyddiwyd Siarl I ar 30 Ionawr 1649.

Trydydd Rhyfel Cartref Lloegr[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd y trydydd rhyfel cartref rhwng 1649 a 1651, rhwng cefnogwyr Siarl II o Loegr a'r Alban a'r Senedd. Diweddodd gyda Brwydr Caerwrangon yn 1651, pan fu'r Senedd yn fuddugol.

Y Rhyfel Cartref yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Roedd boneddigion Cymry ar y dechrau'n cefnogi plaid y Brenin, er bod ambell eithriad megis John Jones, Maesygarnedd, brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, a'r llenor Morgan Llwyd. Ni fu unrhyw frwydrau ar raddfa fawr ar dir Cymru yn ystod y Rhyfel Cartref Cyntaf, ond roedd cyfran helaeth o fyddin y brenin yn rhai o'r brwydrau yn Lloegr yn Gymry; gelwid Cymru yn "fagwrfa gwŷr traed y brenin".

Oherwydd fod arfordir Cymru mor agos i'r Iwerddon, roedd y boneddigion Cymreig yn fwy na pharod i dalu'r dreth longau er mwyn cryfhau'r llynges. Roeddynt hefyd yn gefnogol i ymdrechion yr Archesgob Laud i ddyrchafu rhwysg Eglwys Loegr. Ond erbyn diwedd y 1630au newidiodd hyn:

  • roedd yr Alban yn gwrthwynebu polisiau Siarl
  • credid bod y brenin yn codi byddin o Babyddion yn Iwerddon ac
  • yng Nghymru cododd yr amheuaeth ynghylch bwriadau pendefigion Paybyddol megis Somerset.

Yn Nhachwedd 1640 trwy gyfrwng y Senedd Hir, chwalwyd y fiwrocraiaeth frenhinol a diddymwyd Llys yr Uchel Gomisiwn (sef prif arf Laud) ac ymosodwyd ar yr esgobion a'u Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn ystod cyfnod y Llys Hir, yr unig Gymro a oedd yn deyrngar i'r brenin oedd Herbert Price (fl. 1615 - 1663), pendefig a noddwr llenyddiaeth o'r hen Sir Frycheiniog ac a gynrychiolai Aberhonddu. Er hyn, pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1642, dim ond 5 o ASau o Gymru oedd yn driw i'r Senedd, a dim ond siroedd Penfro (oherwydd masnach) a Wrecsam (oherwydd pwer Thomas Myddelton). Erbyn 1646 roedd Castell Rhaglan wedi cwympo ac roedd lluoedd y Senedd yn rheoli'r cyfan o Dde Cymru. Ymestynodd grym Myddelton dros y Gogledd ac erbyn Mawrth 1647 ildiwyd Castell Harlech i'r Seneddwyr a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben

Yn Sir Benfro y taniwyd gwreichionen gyntaf yr Ail Ryfel Cartref, yn dilyn codi trethi trwm, gan y Seneddwyr a chyda marwolaeth Essex, gwanhawyd dylanwad y Seneddwyr yng Nghymru. Datganodd John Poyer (llywiawdwr Castell Penfro) a Rice Powell (llywiawdwr Castell Dinbych-y-pysgod) eu cefnogaeth i'r brenin. Martsiodd y ddau i Gaerdydd ac ymuno gyda Laugharne (a oedd wedi newid ei got). Ar 8 Mai 1648 trechwyd Laugharne a'i griw brenhinol ym mrwydr bwysicaf y Rhyfel cartref yng Nghymru: Brwydr Sain Ffagan. Ysgubodd Cromwell drwy Dde Cymru ac i fyny i'r Gogledd; ym Môn yr ymladdwyd y frwydr olaf.

Arwyddwyd warant marwolaeth y brenin gan rai Cymry:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]