Herbert Price
Herbert Price | |
---|---|
Ganwyd | 1605 ![]() |
Bu farw | 14 Ionawr 1678 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the April 1640 Parliament, Member of the 1661-79 Parliament ![]() |
Uchelwr a noddwr llenyddiaeth o'r hen Sir Frycheiniog oedd Syr Herbert Price (fl. 1615 - 1663). Roedd yn orwyr i'r ysgolhaig Syr John Price (1502 - 1555), awdur y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf, Yn y lhyvyr hwnn. Fel ei hendaid, roedd yn frodor o Aberhonddu lle cafodd ei fagu ym Mhriordy Aberhonddu, a ddaeth i feddiant y teulu yn amser Syr John.
Roedd yn frenhiniaethwr eithafol a gefnogai hawl ddwyfol y brenin Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, ac ymladdodd o'i blaid yn Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Bu'n Aelod Senedddol dros Sir Frycheiniog am ddau dymor. Etifeddodd ystad yn Swydd Warwick drwy briodas a bu farw yno yn 1663.[1]
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel noddwr i dau o lenorion mawr y cyfnod, sef Henry Vaughan a Rowland Watkyns. Galwai Watkyns ef yn "llyfrgell ar-gerdded".
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Price, Sir Herbert, 1st Bt. (c.1605-78), of The Priory, Brecon and Whitehall" (yn Saesneg). History of Parliament online. Cyrchwyd 30 Mai 2017.