Neidio i'r cynnwys

John Price

Oddi ar Wicipedia
John Price
GanwydAberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1555 Edit this on Wikidata
St Guthlac's Priory Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1553, Aelod o Senedd 1554-55 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHistoriae Britannicae Defensio, Yn y lhyvyr hwnn Edit this on Wikidata
PlantGregory Price Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Wynebddalen Yn y lhyvyr hwnn.

Uchelwr ac ysgolhaig o Gymru oedd Syr John Price (1501/215 Hydref 1555). Mae'n enwog am iddo gyhoeddi'r llyfr argraffiedig cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, sef Yn y lhyvyr hwnn (1546), Roedd yn frodor o Aberhonddu yn Sir Frycheiniog. Ei orwyr oedd y noddwr llenyddiaeth Syr Herbert Price.

Cafodd yrfa hir fel gweinyddwr dan y Goron. O 1530 ymlaen, dan nawdd Thomas Cromwell, fe'i penodwyd i sawl swydd yn cynnwys y Notari Cyhoeddus ac Ysgrifennydd Cyngor Cymru a'r Gororau. Cymerodd ran flaenllaw yn y broses o ddiddymu'r mynachlogydd. Fel dal am ei waith cafodd sawl braint tir, yn cynnwys rhai o diroedd Priordy Aberhonddu. Ymsefydlodd o'r diwedd yn Swydd Henffordd.

Gwnaed ef yn farchog ar yr 22ain o Chwefror, 1546-7. Bu yn Uchel Sirydd dros Sir Frycheiniog yn 1541, a thros Sir Henffordd yn 1554, yn Aelod Seneddol dros Henffordd yn 1553, a thros Llwydlo yn 1554.

Llenor ac ysgolhaig

[golygu | golygu cod]

Fel llenor ac ysgolhaig roedd John Price yn perthyn i fudiad y Dyneiddwyr ac ysgol y Dadeni Dysg yng Nghymru. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Casglai nifer o lawysgrifau hynafol. Roedd yn frwd o blaid gwaith Sieffre o Fynwy a ddaethai dan ymosodiad fel ffug-hanes gan ysgolheigion fel Polydore Vergil. Ysgrifennodd lyfr yn yr iaith Ladin ar y pwnc – yr Historiae Britannicae Defensio ('Amddiffyn hanes Prydain') – a gyhoeddwyd yn 1573 ar ôl ei farw. Ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur Yn y lhyvyr hwnn, y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]