Cyngor Cymru a'r Gororau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Llwydlo - Pencadlys y Cyngor

Roedd Cyngor Cymru a'r Gororau (teitl swyddogol, Saesneg: Court of the Council in the Dominion and Principality of Wales, and the Marches of the same) yn gorff gweinyddol ar gyfer Cymru a'r siroedd cyffiniol Swydd Amwythig, Swydd Henffordd, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw rhwng y 15fed a'r 17g. Roedd pencadlys y Cyngor yng Nghastell Llwydlo.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y 15fed ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wreiddiol bu'r cyngor yn gyfrifol am weinyddu tiroedd Tywysogaeth Cymru a oedd yn dod o dan reolaeth y Goron o ganlyniad i oresgyniad 1282. Cafodd ei phenodi am y tro cyntaf gan y Brenin Edward IV ym 1472 fel corff i gynghori a gweithredu ar ran ei fab, y baban Edward, Tywysog Cymru. Ar y pryd roedd y Brenin Edward newydd ei adfer i'r frenhiniaeth yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a roedd y rhan fwyaf o arglwyddiaethau Mers, o fewn ac ar ffiniau Cymru, yn gynghreiriaid iddo. Sefydlodd ei fab yng Nghastell Llwydlo, gan benodi ei gyfeillion triw, teuluoedd Woodville a Stanley i fod yn ffigurau blaenllaw ar y Cyngor.[2]

Ym 1473 cafodd rôl y Cyngor ei ehangu yn fawr pan roddwyd dyletswydd iddi i gynnal cyfraith a threfn yng Nghymru ac ar hyd y ffin.[3]

16eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Parhaodd y Cyngor ar ôl marwolaeth Edward IV a diflaniad ei feibion o Dŵr Llundain. O dan deyrnasiad Harri VII, bu'r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu'r dywysogaeth ar  ei feibion fel Tywysogion olynol Cymru, sef y Dywysog Arthur ac yna'r Dywysog Harri (Harri VIII wedyn).

Rhwng 1534 a 1543 bu Rowland Lee Esgob Coventry a Chaerlwytgoed yn llywydd y cyngor; credai Lee bod y Cymry yn bobl anwar di gyfraith a bu ei gyfnod fel llywydd yn un o deyrnasiad braw [4], credai mai'r ffordd gorau i ddelio efo'r Cymry oedd trwy eu collfarnu a'u dienyddio yn ddidrugaredd. Broliai ei fod wedi lladd 5,000 o Gymry yn ystod cyfnod ei lywyddiaeth.[5]

Y prif reswm pam bod Lee a'i debyg yn gallu ymddwyn mewn modd mor greulon yn ddigerydd oedd bod y cyngor yn bodoli o dan uchelfraint y brenin heb fod iddi unrhyw reolaeth mewn cyfraith statudol. Newidiwyd hynny gan yr Ail Ddeddf Uno (1543) pan roddwyd cyfansoddiad statudol i'r cyngor. O dan y ddeddf cyfansoddwyd y cyngor o'r Llywydd yr islywydd ac ugain o aelodau a enwebwyd gan y brenin; bu'r rhain yn cynnwys rhai o esgobion Cymru a'r Gororau, aelodau o'r teulu brenhinol a gŵyr cyfraith Cymru a'r gororau megis Ynadon Llys y Sesiwn Fawr a gŵyr a hyfforddwyd yn y gyfraith.

Doedd y ddeddfwriaeth a rhoddodd cydnabyddiaeth statudol i'r Cyngor dim yn rhestru ei chyfrifoldebau dim ond datgan y dylai'r Llywydd a'r Cyngor gwrando a phenderfynu ar yr achosion yr oedd wedi gwrando arnynt hyd yn hyn. Cafodd hyn ei ddehongli'n eang a dechreuodd y cyngor clywed pob achos, sifil a throseddol a oedd yn cael eu dwyn gan unigolion a oedd yn rhy dlawd i erlyn yn llysoedd Llundain; roedd yn barnu bob achos o lofruddiaeth, ffeloniaeth, morladrad, dryllio, a throseddau oedd yn debygol o darfu ar heddwch. Bu'r cyngor hefyd yn ymchwilio i gyhuddiadau o gam lywodraethu gan swyddogion a rheithfarnau ffug rheithgorau. Roedd i orfodi'r cyfreithiau yn ymwneud a lifrai a chynnal a chadw; i gosbi lledwyr achlust a godinebwyr, ac i ddelio ag anghydfodau ynghylch amgáu tiroedd, gwasanaeth taeog, a chwestiynau maenorol. Roedd yn clywed apeliadau gan y llysoedd cyffredin; ac roedd yn gyfrifol am weinyddu'r ddeddfwriaeth yn delio â chrefydd. Yn ôl yr hanesydd John Davies, Cyrychiolai'r Cyngor arbrawf nodedig mewn llywodraeth rhanbarthol yn y cyfnod hwn[6].

Er bod y mwyafrif o'r cynghorwyr yn foneddigion o'r Mers, doedd y siroedd Saesnig ddim yn ôr hoff o gael eu rheoli ar y cyd a Chymru a bu sawl ymgais ganddynt i gael eu rhyddhau o'i ddylanwad. Llwyddodd Dinas Bryste i eithrio o ddylanwad y Cyngor ym 1562 a Swydd Gaer ym 1569, methodd cais Caerwrangon i gael ei rhyddhau ym 1576.

Y 17eg Ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyrhaeddodd prysurdeb y Cyngor ei hanterth rhwng 1610 a 1620 pan glywodd dros 1,200 o achosion y flwyddyn[7].

Diddymwyd y Cyngor yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref Lloegr a'i hail adfer ar ôl i Siarl II dychwelyd i'r orsedd ym 1660. Cafodd y Cyngor ei ddiddymu'n llwyr ar 25 Gorffennaf 1689 yn dilyn y Chwyldro Gogoneddus ym 1688 a ddymchwelodd teyrnasiad Iago II ac a sefydlodd William III (William o Orange) fel brenin.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr o Lywyddion ac is Lywyddion Cyngor Cymru a'r Gororau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The council in the Marches of Wales; a study in local government during the sixteenth and seventeenth centuries CAROLINE A. J. SKEEL 1904
  2. The Court of the President and Council of Wales and the Marches, from 1478-1575, David Lewis (1897)
  3. The Dialogue of the Government of Wales (1594): Updated Text and Commentary; John Gwynfor Jones University of Wales Press, 2010
  4. John Davies Hanes Cymru, tud 217; Allen Lane 1990 ISBN 10: 0713990112
  5. Y Bywgraffiadur LEE ( LEGH ), ROWLAND (bu f. 1543 ) adalwyd 17 Mehefin 2016
  6. John Davies Hanes Cymru, tud 261 Allen Lane 1990 ISBN 10: 0713990112
  7. John Davies Hanes Cymru, tud 262 Allen Lane 1990 ISBN 10: 0713990112
  8. BBC The Council of Wales and the Marches adalwyd 17 Mehefin 2016