Sgwrs:Cyngor Cymru a'r Gororau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl[golygu cod]

@Titus Gold: Mae'n ddrwg gen i, ond dwy i ddim yn meddwl y dylech chi newid teitl yr erthygl heb drafodaeth. Bid sicr, byddai "Cyngor Cymru a'r Mers" yn deitl rhesymegol, ond ydy e'n enw y mae haneswyr yn ei ddefnyddio? Tra bo'r enw "Cyngor Cymru a'r Gororau" yn cael ei ddefnyddio gan rai ohonynt o leiaf (gan gynnwys John Davies yn ei Hanes Cymru). Mae yna ddwsinau o erthyglau eraill sy'n defnyddio "Cyngor Cymru a'r Gororau" ac yn cyfeirio yma, a dylem ni fod yn gyson. Felly byddaf i'n ei roi yn ôl lle'r oedd. Os credwch chi fod achos da i'w wneud dros y newid, cyflwynwch rywfaint o dystiolaeth. Craigysgafn (sgwrs) 21:54, 7 Ionawr 2023 (UTC)[ateb]

Dim problem. Caiff y ddau derm eu defnyddio.
Cyfeiriadau at gyngor Cymru a'r Mers isod:
"Cyngor Cymru a'r Mers": https://www.google.co.uk/books/edition/Hanes_Cerddoriaeth_Cymru/4-M4AQAAIAAJ?hl=en&gbpv=1&bsq=cyngor+cymru+a%27r+mers&dq=cyngor+cymru+a%27r+mers&printsec=frontcover
"Cyngor y Brenin yn Nominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers": https://www.google.co.uk/books/edition/Hanes_Cymru_A_History_of_Wales_in_Welsh/bV6tAAAAQBAJ?hl=en&gbpv=1&dq=cyngor+cymru+a%27r+mers&pg=PT246&printsec=frontcover
"Cyngor Cymru a'r Mers" https://www.google.co.uk/books/edition/Yr_amddiffynwyr/bWWAAAAAIAAJ?hl=en&gbpv=1&bsq=cyngor+cymru+a%27r+mers&dq=cyngor+cymru+a%27r+mers&printsec=frontcover
Hapus i aros gyda'r teitl presennol o "Cyngor Cymru a'r Gororau". Titus Gold (sgwrs) 22:16, 7 Ionawr 2023 (UTC)[ateb]