Edward IV, brenin Lloegr
Edward IV, brenin Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
28 Ebrill 1442 ![]() Rouen ![]() |
Bu farw |
9 Ebrill 1483 ![]() Westminster ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth |
teyrn ![]() |
Swydd |
Dug Iorc, brenin Lloegr, brenin Lloegr, teyrn y Deyrnas Gyfunol, teyrn y Deyrnas Gyfunol ![]() |
Tad |
Richard o York, 3ydd dug York ![]() |
Mam |
Cecily Neville, Duchess of York ![]() |
Priod |
Elizabeth Woodville, Elizabeth Waite, Lady Eleanor Talbot ![]() |
Plant |
Elisabeth o Efrog, Mary o York, Cecily o York, Edward V, Margaret o York, Richard o Shrewsbury, dug cyntaf York, Anne o York, George Plantagenet, dug 1af Bedford, Catherine o York, Bridget o York, Arthur Plantagenet, is-iarll 1af Lisle, Elizabeth Plantagenet, Edward de Wigmore, Grace Plantagenet ![]() |
Llinach |
Iorciaid ![]() |
Gwobr/au |
Marchog Urdd y Cnu Aur ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Edward IV (28 Ebrill 1442 – 9 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.
Yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôdd am ei fywyd i Iwerddon.
Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.
Plant[golygu | golygu cod y dudalen]
- Elisabeth o Efrog
- Edward V, brenin Lloegr
- Rhisiart, dug Efrog
- Anne
- Catrin
- Cecily
- Bridget
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 4 Mawrth 1461 – 31 Hydref 1470 |
Olynydd: Harri VI |
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 11 Ebrill 1471 – 9 Ebrill 1483 |
Olynydd: Edward V |
|