Guto'r Glyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn fardd Cymraeg oedd yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Er na wyddom union ddyddiad geni Guto, mae'n bur debygol iddo ddod i'r byd naill ai yn 1400, blwyddyn gwrthryfel Owain Glyn Dŵr neu ychydig wedi hynny. Cysylltir Guto â Glyn Ceiriog, lle'r oedd nifer o'i noddwyr yn byw. Ysgrifennodd gerddi i noddwyr ym mhob rhan o Gymru, ac ystyrir ef yn un o feistri'r canu mawl.

Gellir casglu o'i farddoniaeth fod Guto wedi bod yn filwr yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Roedd yn bleidiwr brwd i blaid yr Iorciaid, a chyfansoddodd gerddi i glodfori'r brenin Edward IV ac Iarll Penfro, William Herbert, prif gefnogwr yr Iorciaid yng Nghymru. Mae'r farddoniaeth gynharaf sydd wedi goroesi yn perthyn i ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438, ac fe'u canwyd i uchelwr o Gymro a fu'n byw yn Ffrainc: Syr Rhisiart Gethin o Fuellt, rhyfelwr proffesiynol a enillodd fri yn ymladd dros goron Lloegr yn Normandi. Roedd Syr Rhisiart yn fab i Rys Gethin, un o gadfridogion Glyn Dŵr yn nechrau'r ganrif. Gwyddys i sicrwydd fod Guto wedi gwasanaethu Richard dug Iorc yn 1441 fel rhan o ail ymgyrch filwrol y dug yn Ffrainc a chredir hefyd iddo fod yn rhan o ymgyrch gyntaf y dug ac yn aelod o'r fyddin a laniodd yn Honfleur ar 7 Mehefin 1436 (Johnson 1988: 29). Mae'n bur debygol fod Guto wedi teithio i Normandi yn 1436/7 ac wedi cyfarfod ei noddwr, Syr Rhisiart Gethin, yno. Canodd hefyd gywydd mawl i Fathau Goch, milwr arall o Gymro a fu'n brwydro yn Ffrainc rhwng 1423 a 1450.

Rhwng 1450 a 1470 treuliodd Guto'r rhan fwyaf o'i amser mewn dwy ardal yn y Gororau yng [[Croesoswall|Nghroesoswallt, fel canolfan i'w deithio neu 'glera' yn y Gogledd, a chastell Rhaglan, canolfan rymus yr Herbertiaid yng Ngwent, yn y De. Ac mae'n debygol iddo glera cryn dipyn mewn ardaloedd eraill, yn arbennig yng Ngwynedd.

Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf fel gwestai yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ger Llangollen. Roedd ei gyfaill agos Gutun Owain yn ymwelydd cyson â'r abaty hefyd, a chanodd farwnad i'w gyfaill. Mae'n debygol fod Guto wedi ei gladdu ar dir yr abaty.

Portread[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn ŵr cryf yn ei ieuenctid a chyeir sawl cyfeiriad at y ffaith iddo ddirywio wrth fynd yn hŷn, gan golli ei olwg tua'r diwedd. Derbyniodd gryn glod pan oedd yn iau am daflu maen, fel y sonia cydoeswr iddo, Gutun Owain. Bu'n saethydd ym myddin Richard, dug Iorc, yn 1441. Byddai ei gryfder a'i daldra wedi bod yn gaffaeliad iddo fel saethydd. Mewn un gerdd ddychanol awgryma cydoeswr arall iddo, Dafydd ab Edmwnd, i'r bardd ddioddef anaf yn sgil codi pwysau pan oedd yn ifanc ac mewn cerddi eraill sonia ei fod yn or-hoff o fwyat a'i fod yn ddyn boliog. Canodd Llywelyn ap Gutun at 'fwyall drwyn ac wyneb arth' a mynn Guto'i hun fod ganddo wyneb hen ei olwg a phen mawr sydd wedi moeli yn y cywydd mawr sydd ganddo i Abad Tomas o Amwythig:

Mae i mi wyneb padrïarch
A chorun mwy no charn march.

Credir iddo golli ei wallt pan oedd yn ŵr ifanc a disgrifiwyd ef gan Hywel Dafi mewn cerdd ddychan o hanner cyntaf y 15fed ganrif fel moel brydydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gwaith Guto'r Glyn, golygwyd gan Ifor Williams, casglwyd gan John Llywelyn Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)
  • Cymru Guto; Prosiect arlein ‘Cymru Guto’ sy'n rhan o Brosiect Guto’r Glyn, ac yn cyd-fynd â golygiad electronig ar lein o waith y bardd, Guto'r Glyn.net