Neidio i'r cynnwys

Ieuan Dyfi

Oddi ar Wicipedia
Ieuan Dyfi
Ganwyd1461 Edit this on Wikidata
Bu farw1500 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd o Feirionnydd a ganai yn ail hanner y 15g oedd Ieuan Dyfi (ganed tua 1460). Bardd serch oedd Ieaun yn bennaf, sy'n adnabyddus am ei gerddi i'w gariad, Anni Goch, ac a gofir hefyd am ei gerddi ymryson â Gwerful Mechain a Dafydd Llwyd o Fathafarn.[1]

Bywyd a cherddi

[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Yn ôl y Dr John Davies o Fallwyd, roedd yn frodor o Aberdyfi, ac mae ei enw barddol yn ategu hynny.[1]

Cedwir deuddeg o destunau y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd. Cywyddau ydynt i gyd. Mae pump yn gywyddau serch i Anni Goch. Ysgogodd un o'r rhain, sy'n ceisio profi twyll gwragedd trwy'r oesoedd o gyfnod Efa ymlaen, ymateb cofiadwy gan y brydyddes Gwerful Mechain. Ceir cywydd hefyd yn ceisio tawelu'r dyfroedd rhwng Ieuan a Dafydd Llwyd o Fathafarn. Ond cofir Ieuan yn bennaf am ei ganu serch telynegol a'i hoffder o natur.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill, gol. Leslie Harries (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Cyfrol sy'n cynnwys 'Gwaith Ieuan Dyfi', gyda nodiadau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.