Iorwerth ab y Cyriog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iorwerth ab y Cyriog
Ganwyd 14G Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1350 Edit this on Wikidata
Tad Gronw Gyriog Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau tua chanol y 14g oedd Iorwerth ab y Cyriog (fl. tua 1325 - tua 1375). Er nad oes prawf pendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab y bardd Gronw Gyriog oedd ef a'i fod, fel ei dad, yn hannu o Fôn.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ychydig a wyddys am y bardd yn deillio o dystiolaeth ei gerddi ei hun a dau gyfeiriad ato yng ngwaith ei gyfoeswyr Sefnyn a Dafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad iddo mae Sefnyn yn awgrymu ei fod yn bencerdd gyda meistrolaeth ar ganu yn null Aneirin (h.y. canu mawl), ac mae'n amlwg fod y ddau fardd yn gyfeillion. Yn y cywydd 'Cae Bedw Madog', awgryma Dafydd ap Gwilym fod Iorwerth wedi canu cerdd i ferch yn gyfnewid am dâl - h.y. fod ei fryd er bethau materol. Ond mae'r ffaith fod dau o feirdd mwyaf y ganrif yn cyfeirio ato o gwbl yn dangos fod y bardd yn adnabyddus ac yn fardd o bwys.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Er ei bod yn debygol iawn fod y bardd yn frodor o Fôn ac yn perchen tir yno, i noddwyr ym Meirionnydd y mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi. Priodolir pum cerdd iddo, sef dwy awdl (un i Dduw a'r llall i ferch o Feirionnydd o'r enw Efa), cywydd i ddiolch am glasb, cywydd marwnad i Einion ap Seisyll o Fathafarn (plwyf Llanwrin, ger Machynlleth), a dychan i Ddrws-y-nant (rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau).[1] Dim ond y tair cyntaf a dderbynir fel gwaith dilys Iorwerth a cheir cryn ansicrwydd am awduraeth y ddwy olaf. Er mai bychan yw cyfanswm y cerddi a gadwyd, ceir llinellau cofiadwy iawn ynddynt, e.e. am Efa sy'n

Lloer morynion llawr Meirionnydd.[1]

Yn ei gywydd i ddioch am glasb ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf ar glawr at Feddygon Myddfai.[1]

Ceir y testunau hynaf o gerddi Iorwerth yn Llyfr Coch Hergest.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill.