Sefnyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g oedd Sefnyn (bu farw yn y 1380au, efallai). Mae'n bur debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn ac yn dad i'r bardd Gwilym ap Sefnyn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair awdl i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw William Salesbury, a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o lan Pabo ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf Llandyfrydog hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i Goronwy ap Tudur Fychan, un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn Arllechwedd Uchaf.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond tair awdl o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a Threfeilir, a'r llall i Goronwy ap Tudur Fychan o Benmynydd a'i wraig Myfanwy. Yn ogystal ceir awdl-farwnad ganddo i'r bardd Iorwerth ab y Cyriog, fab y bardd Gronw Gyriog. Mae'r nodyn amlwg o golled bersonol a geir yn y gerdd yn awgrymu'n gryf fod y ddau fardd yn gyfeillion. Mae'n bosibl hefyd mai Iorwerth oedd athro barddol Sefnyn.[1]

Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Sefnyn'.