Huw Pennant (Sir y Fflint)

Oddi ar Wicipedia
Huw Pennant
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, clerig, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
Erthygl am y bardd o Sir y Fflint yw hon. Gweler hefyd Huw Pennant (Gwynedd).

Bardd Cymraeg o Sir y Fflint a fu yn ei flodau o ddiwedd y 15g hyd ddechrau'r 16g oedd Huw Pennant (fl. tua 1465 - 1514). Cyfeirir ato weithiau wrth y ffurf Saesneg ar ei enw, Hugh Pennant. Roedd yn fardd proffesiynol a chyfieithydd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano ar wahân i'r ffaith ei fod yn frodor o Sir y Fflint, yn glerigwr ac yn frawd i Thomas Pennant, abad Dinas Basing.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Ceir nifer fach o gerddi mawl a marwnadau ganddo i rai o brif deuluoedd gogledd Cymru. Priodolir sawl cerdd ddarogan iddo yn y llawysgrifau hefyd, sy'n perthyn i gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymgyrch Harri Tudur.

Cedwir ar glawr cyfieithiad i'r Gymraeg o fuchedd Ladin y Santes Ursula ganddo. Ceir y testun yn llawysgrif Llansteffan 34, yn llaw Roger Morys o Goedytalwrn.[1]

Mae ei waith yn aros yn y llawysgrifau, heb ei gyhoeddi eto.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. Simon Evans, 'Y Bucheddau', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol, gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974), tud. 263.