Llywelyn Goch y Dant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o Forgannwg oedd Llywelyn Goch y Dant (bl. 1470). Ychydig a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chanu ei gyd-feirdd ym Morgannwg. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o fro Tir Iarll.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bardd proffesiynol oedd Llywelyn, un o Feirdd yr Uchelwyr. Cyfeiria ei gyfoeswr Ieuan Du'r Bilwg ato fel "pencerdd" a "phen prydydd" mewn cywydd dychan amdano. Er mai hwyl yw'r cyfan, dyma'r unig ddisgrifiad o Llywelyn sydd gennym, a roddir yng ngenau gwraig a'i welodd yn basio ar y ffordd yn cardota:

Gwelais ddyn golas o dda,
Danheddir, doe yn heidda,
Ac ar ei war, garrai warth,
Lieingwd o lywangarth,
Eilun cam ar lun cwmwd,
Elor goch â'i law ar gwd.[2]

Cefnogodd feirdd Tir Iarll yn yr ymryson a gododd fel canlyniad i gywydd marwnad gan Hywel ap Dafydd i Ieuan ap Hywel Swrdwal. Gwyddom i Ieuan farw tua 1470 a dyma'r un o'r ychydig ddyddiadau pendant i amseru bywyd Llywelyn Goch. Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu ei fod yn frodor o Dir Iarll hefyd.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim llawer o gerddi Llywelyn Goch wedi goroesi, ond yn eu plith ceir marwnad i Rosier Fychan (Syr Roger Vaughan) o Dretŵr (m. 1471), un o uchelwyr grymusaf y De.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg.
  2. Dyfynnir yn Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 38.