Gronw Ddu

Oddi ar Wicipedia
Gronw Ddu
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Am y brudiwr o'r un enw gweler Gronw Ddu o Fôn.

Bardd Cymraeg o Wynedd oedd Gronw Ddu (bl. canol y 14g). Mae lle da i gredu mai Gronw Ddu ap Tudur ap Heilyn oedd ei enw llawn, ei fod yn frodor o Fôn ac yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan. Tadogwyd nifer o gerddi darogan arno yn ddiweddarach, gan amlaf wrth yr enw Gronw Ddu o Fôn.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu y gallem uniaethu Gronw Ddu â Gronw Ddu ap Tudur ap Heilyn ap Tudur ab Ednyfed Fychan. Roedd ei gyndeidiau yn cynnwys dau o ddisteiniaid teyrnas Gwynedd yn y 13g felly, sef Ednyfed Fychan a'i fab Tudur ab Ednyfed.

Cedwir ar glawr tair cerdd y gellir eu derbyn fel gwaith dilys Gronw Ddu yn hytrach na'r brudiau diweddarach yn enw Gronw Ddu o Fôn, gwrthrych y testun brud adnabyddus 'Breuddwyd Gronw Ddu', ac sydd i'w dyddio i'r 15g. Ceir awdl benydiol draddodiadol, awdl serch fer a chywydd serch 'I'r tŷ yn y llwyn'. Mae'r ffaith fod nifer o frudiau diweddarach yn cael eu tadogi ar y bardd o'r 14g yn awgrymu'n gryf ei fod yn fardd brudiol hefyd ond bod y cerddi hynny heb eu cadw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gronw Ddu', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).