Hywel ab Einion Lygliw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd o'r 14g a gysylltir â Meirionnydd oedd Hywel ab Einion Lygliw (fl. 1330 - 1370). Roedd yn ewythr i Gruffudd Llwyd, un o feirdd mawr cyfnod Owain Glyn Dŵr.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni wyddom fawr dim am fywyd y bardd. Ceir cofnod am ŵr o'r enw Einion Lygliw yn trigo yn nhrefgordd Rhiwedog, plwyf Llanfor, Meirionnydd yn 1292 a derbynir mai ef oedd tad Hywel, yn ôl pob tebyg. Roedd Einion yn aseswr treth lleol yn ardal Tal-y-bont, Meirionnydd yn 1318.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond un gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw sydd wedi goroesi, ond mae ymhlith yr enwocaf o waith y Cywyddwyr, sef ei awdl foliant i Fyfanwy Fychan "o Gastell Ddinas Brân". Roedd y castell hwnnw yn adfail yng nghyfnod y bardd ac ymddengys mai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu o Langollen oedd y ferch mae Hywel ab Einion Lygliw yn anfon march yn llatai iddi. Priododd Myfanwy â Goronwy ap Tudur Fychan o linach Penmynydd a cheir sawl cerdd gan y beirdd iddi hi a'i gŵr. Mae beddfaen alabaster cerfiedig Goronwy Fychan, a fu farw yn 1382, gyda delwau ef a'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys plwyf Penmynydd, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.[1]

Argraffwyd y gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw yn y Myvyrian Archaiology of Wales (1801) a daeth â hi i amlygrwydd cenedlaethol. Dyma'r ysbrydoliaeth i'r gerdd boblogaidd 'Myfanwy Fychan' gan Ceiriog. Ceir cyfieithiad Saesneg o'r gerdd gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales hefyd, a sicrhaodd ei fod yn destun adnabyddus i hynafiaethwyr yng Nghymru a'r tu hwnt.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000). Rhagymadrodd.