Ieuan Brydydd Hir Hynaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y bardd canoloesol yw hon. Am y bardd ac ysgolhaig o'r 18fed ganrif a adnabyddir weithiau fel Ieuan Brydydd Hir, gweler Evan Evans (Ieuan Fardd).

Bardd Cymraeg o'r 15g oedd Ieuan Brydydd Hir (fl. 1450 - 1485). Roedd yn frodor o Ardudwy, Meirionnydd. Am i'r llenor Evan Evans (1731-1788) gael ei alw'n 'Ieuan Brydydd Hir' hefyd, mae'n arfer galw'r bardd canoloesol yn 'Ieuan Brydydd Hir Hynaf' neu 'Ieuan Brydydd Hir Hen' er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a rhai o gerddi ei gyd-fardd a chyfaill Tudur Penllyn (c.1420 - 1485). Ymddengys iddo gael ei alw yn 'Brydydd Hir' am ei fod yn dal. Mae'r ffaith ei fod yn brydydd yn dangos ei fod yn fardd uchel ei ddysg a'i barch. Ymddengys ei fod yn athro barddol gan fod Tudur Penllyn yn cyfeirio ato fel 'athro canon Meirionnydd.'[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddi crefyddol yw dros hanner y tair cerdd ar ddeg o'i waith sydd wedi goroesi. Maent yn cynnwys moliant i gysegrfannau fel Eglwys gadeiriol Aberhonddu, y Grog yng Nghaer, a Ffynnon Gwenfrewy yn Nhreffynnon. Dyma ddiweddglo'r cywydd i ffynnon Gwenfrewy:

Mae yn ei ffons, man o'r ffydd,
Byd megis maen bedydd;
Ac yno mae, gwen a'i medd,
Aurddonen i'r ddwy Wynedd,
Down ati, wen, dan y to,
A'i phib win, a phawb yno,
Yno cawn — ddyn unig gwan —
Ddiod fal buchedd Ieuan,
Ychydig, dysgedig oedd,
Â'r forwyn un arferoedd.
Dafnau o'i gwyrthiau a gaf:
O'i chyfeddach iach fyddaf![2]

Ceir tair cerdd gan Ieuan i'w gyfaill Tudur Penllyn sy'n rhan o gyfres o gerddi ymryson o naws gellweirus rhyngddynt; disgrifir helyntion y ddau fardd ar deithiau clera yn y gogledd ac ymweliad â Chaerdydd. Yn ogystal ceir cywydd brud sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth Rhyfeloedd y Rhosynnau ac yn proffwydo dyfodol llewyrchus i Wynedd a Chymru diolch i ddyfodiad y Mab Darogan i arwain y Cymry i fuddugoliaeth ar y Saeson.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y golygiad safonol o waith y bardd yw:

  • M. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan Brydydd Hir (Aberystwyth, 2000). Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thomas Roberts (gol.) Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958), cerdd 25.3.
  2. Gwaith Ieuan Brydydd Hir, cerdd 11.41-52.
  3. Gwaith Ieuan Brydydd Hir.