Lewys Dwnn
Lewys Dwnn | |
---|---|
Ganwyd | 1550 Betws Cedewain |
Bu farw | 1616 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, achrestrydd |
Cysylltir gyda | Wiliam Llŷn |
Bardd Cymraeg ac achyddwr o Gymru oedd Lewys Dwnn (bl. 1550 – 1616) neu Lewys ap Rhys ab Owain fel y'i gelwir weithiau. Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r achyddwyr pwysicaf a fu yng Nghymru ac mae ei waith yn ffynhonnell werthfawr i ymchwilwyr i hanes Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o blwyf Betws Cedewain ym Maldwyn, gogledd Powys oedd Dwnn. Roedd yn un o ddisgynyddion Dafydd Dwnn (Donne) a ffôdd o Sir Gaerfyrddin i Bowys mewn amgylchiadau amheus ar ôl llofruddiaeth maer Caerfyrddin.
Fel bardd, ni roddir llawer o werth ar ei gerddi fel gwaith llenyddol a chydnabyddir yn gyffredinol fod ei awen yn ddi-fflach, er iddo gael ei hyfforddi gan y prifardd Wiliam Llŷn a'r bardd a chroniclydd Hywel ap Mathew. Ond mae ei gerddi yn frith o achau teuluoedd uchelwrol Cymru gyfan ac yn cael eu hystyried yn ffynhonnell bwysig gan achyddwyr a haneswyr.
Casglodd arfbeisiau'r uchelwyr hefyd. Ceir dwy gyfrol o achau - llawysgrifau Peniarth 268 ac Egerton 2585 - wedi'u haddurno ag arfbeisiau yn ei law ei hun ynghyd â sawl testun achyddol arall. Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gan y Welsh Manuscripts Society yn 1846. Cedwir y llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Peniarth 268) a'r Llyfrgell Brydeinig (Egerton 2585).
Roedd ei fab James yn fardd hefyd. Canodd gerddi caeth traddodiadol i deuluoedd gogledd Powys, Ceredigion a Meirionnydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Lewys Dunn: Heraldic Visitations, dwy gyfrol wedi'u golygu gan Samuel Rush Meyrick a W. J. Rees (Welsh Manuscripts Society, 1846).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gruffydd Dwnn, gŵr bonheddig a'r enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin; bu'n byw yn Ystrad Merthyr, ger Cydweli.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd