Rhisiart Phylip

Oddi ar Wicipedia
Rhisiart Phylip
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Bu farw1641 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd proffesiynol o ardal Ardudwy, Meirionnydd, oedd Rhisiart Phylip (bu farw yn 1641).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr 16g a'r ganrif olynnol a adnabyddir fel Phylipiaid Ardudwy. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr Normanaidd yn yr ardal yn y 12g ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf Beirdd yr Uchelwyr, y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. Arferent fynd ar deithiau clera gan ymweld ag aelwydydd mawr gogledd Cymru. Mae eu gwaith yn ddrych o gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.

Roedd Rhisiart yn frawd i'r bardd Siôn Phylip. Cedwir ar glawr dros gant o awdlau, englynion a chywyddau ganddo. Yn eu plith ceir marwnad Maurice Jones o Benmorfa (m. 1624). Roedd Rhisiart yn Brotestant pybyr adeg y Gwrth-Ddiwygiad a cheir cerdd ganddo yn dathlu suddo llong o Sbaen — oedd yn ceisio dod â chymorth i rai o'r Pabyddion Cymreig — yn aber Afon Dyfi yn 1597.