Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn ap Gwilym Lygliw
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim o gwbl am hanes y bardd. Roedd yn perthyn i'r Llygliwiaid ond ni cheir ei enw ef nac eiddo ei dad yn yr achau.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod]

Un gerdd yn unig o'i waith sydd ar glawr. Yn y rhan fwyaf o'r 24 test ohoni yn y llawysgrifau mae'n cael ei phriodoli i Siôn Cent (15) neu eglwyswr o'r enw Hywel Hir (7), ond ar sail nodweddion mydryddol ac ieithyddol y gerdd mae'r awdurdodaeth hynny yn cael ei gwrthod a thueddir i'w derbyn fel gwaith Llywelyn ap Gwilym Lygliw.[1]

Prif bwnc y cywydd yw gweledigaeth o Uffern gan Pawl yn nhraddodiad cyfarwydd yr Oesoedd Canol lle mae gweledigaethau o'r math yn gyfrwng i rybuddio yn erbyn drychynfeydd y byd yr ochr arall i'r bedd sy'n disgwyl yr annuwiol. Rhagflaenir hyn gan fath o hanes mydryddol o'r Iachawdwriaeth yng Nghrist dros Bum Oes y Byd ac fe'i diweddir gydag adran sy'n disgrifio'r Saith Pechod Marwol a'r llwybr i'r Nefoedd.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000). Rhagymadrodd.
  2. Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).