Neidio i'r cynnwys

Gruffudd Gryg

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd Gryg
FfugenwGruffudd Grug Edit this on Wikidata
Ganwyd1310 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw1380 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a oedd yn un o'r cywyddwyr cynnar oedd Gruffudd Gryg (ganed tua 1310 - bu farw tua 1380). Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr ac yn cydoesi â Dafydd ap Gwilym.

Ychydig a wyddys am y bardd. Roedd yn frodor o Ynys Môn, ac yn ei ei gywydd i saith mab Iorwerth ap Gruffudd o gwmwd Llifon ym Môn, awgrymir ei fod yn gyfaill neu'n berthynas iddynt. Lleolid cwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw yn ne-orllewin yr ynys.[1]

Bu ymryson barddol rhyngddo ef a Dafydd ap Gwilym, yn cynnwys ffug-farwnadau i'w gilydd, gyda nifer o feirdd eraill yn ymuno. Yn ôl un o'i ddau ffug-farwnad i Ddafydd ap Gwilym, roedd Dafydd yn athro iddo:

Disgybl wyf, ef a'm dysgawdd,
Dysgawdr cywydd, huawdr cawdd.[1]

Mae ei lysenw cryg yn awgrymu bu ganddo ryw nam ar ei leferydd. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym ato fel "y mab ataliaith" ac ymddengys fod Gruffudd yn baglu ar ei eiriau wrth siarad. Er hynny, tra'n cydnabod fod ganddo nam ar ei lais, mae'n taeru ei fod yn medru canu - h.y. datgan ei gerddi - yn ddilyffethair.[1] Ceir enghraifft arall o'r ffugenw yn enw bardd arall, sef Y Mab Cryg.

Cerddi

[golygu | golygu cod]

Ymhlith ei weithiau eraill mae cerddi i sawl uchelwr yn y gogledd, cywydd i'r lleuad ac i'r don, cywydd moliant i Ynys Môn a chywydd yn crybwyll ei bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen.[2] Ceir yn ogystal disgrifiad merch, awdl i Dduw a chyfres o englynion.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Y golygiad safonol o'i waith erbyn heddiw yw:

  • Barry J. Lewis ac Eurig Salisbury (gol.), Gwaith Gruffudd Gryg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2010)

Ceir golygiad o'r ymryson barddol rhwng Gruffudd Gryg a Dafydd ap Gwilym yn:

  • Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1952)

Mae golygiadau eraill yn cynnwys:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Barry J. Lewis ac Eurig Salisbury (gol.), Gwaith Gruffudd Gryg.
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein