Neidio i'r cynnwys

Edward Urien

Oddi ar Wicipedia
Edward Urien
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuoddc. 1580, 1614 Edit this on Wikidata

Bardd o Gymru oedd Edward Urien (bl. tua 15801614). Yn ôl pob tebyg roedd yn frodor o gyffiniau Dinas Mawddwy a Mallwyd, de Gwynedd.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd Edward Urien yn un o ddisgyblion barddol Rhys Cain a chedwir marwnad iddo gan y bardd hwnnw. Mae ei ganu i gyd yn gysylltiedig â chyffiniau Mawddwy, yn cynnwys cywydd i'r Dr John Davies, a gellir derbyn ei fod yn frodor o'r ardal honno. Canodd sawl cywydd ond roedd yn grefftwr arbennig ar yr awdl, a hynny mewn cyfnod pan fu dirywiad ac esgeulustod cyffredinol o'r mesur hwnnw. Mae ei waith yn cynnwys cywydd nodedig ar thema anghyffredin, 'I gysuro merch ddall', i ferch o'r enw Lowri.[1]

Erys trwch gwaith Edward Urien heb ei gyhoeddi (2010).

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • 'I gysuro merch ddall', yn Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, gol. Nesta Lloyd (Cyhoeddiadau Barddas, 1993), rhif 15.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, tud. 325.