Trahaearn Brydydd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r cynharaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Trahaearn Brydydd Mawr (bl. dechrau'r 14g). Roedd yn frodor o Ystrad Tywi, yn ôl pob tebyg, ac yn cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf ei gyfnod gan ei gyfoeswyr.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymharol ychydig a wyddom am Drahaearn ei hun ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r llysenw '[P]rydydd Mawr' yn dangos dau beth, sef ei fod yn brydydd a hefyd ei fod yn ŵr o faintioli corfforol anghyffredin (cf. Cynddelw Brydydd Mawr), ffaith a ategir gan gyfeiriadau ato gan rai o'i gydfeirdd. Mae cofnodion achyddol yn awgrymu mai Goronwy Foel ap Robert ap Bleddri o Defnynnog yn y Cantref Mawr (Tewdos) ym Mrycheiniog oedd ei dad, ond cysylltir y mab ag ardal Ystrad Tywi (Sir Gaerfyrddin) a chanodd hefyd ym Morgannwg.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pump o gerddi gan Drahaearn ar glawr heddiw ond gwyddys mai cyfran fach o'i waith yw hyn. Ceir awdl grefyddol a marwnad i Hywel o Landingad, plwyf yng nghwmwd Hirfryn yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi: canu yn null y Gogynfeirdd a geir yn y cerddi hyn. Ceir yn ogystal tair cerdd dychan, yn cynnwys un deifiol iawn i'w gyd-fardd Casnodyn, yn gyfres hir o englynion, sy'n taflu golwg gwrthfawr ar fywyd y bardd mawr hwnnw.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).