Llandingad
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
- Erthygl am y pwlyf yn sir Gaerfyrddin yw hon. Am y pentref yn Sir Fynwy gweler Llanddingad.
Plwyf eglwysig - a sifil hyd yn ddiweddar - yn Sir Gaerfyrddin yw Llandingad. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir gan ymestyn o gwmpas tref Llanymddyfri.[1]
Yn yr Oesoedd Canol, gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Hirfryn yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi. Enwir y plwyf ar ôl Sant Dingad (neu 'Tingad').
Yn ôl traddodiad, claddwyd Rhys Prichard ("Yr Hen Ficer", awdur Cannwyll y Cymry) yn Eglwys Llandingad. Gorwedd yr eglwys ar gwr Llanymddyfri ar y ffordd sy'n rhedeg i lawr i Landeilo trwy Langadog. Dywedir y cafodd ei fedd ei olchi i ffwrdd pan orlifodd afon Tywi a difrodi rhan o'r eglwys.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Vision of Britain: Llandingad[dolen marw]
- ↑ Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Cyfres Crwydro Cymru, 1970), tt. 195-6.