Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd Cymraeg o Forgannwg oedd Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision (bl. 1437–cyn 1490). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur dau gywydd i Owain Tudur ac fel awdur cerddi maswedd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Brodor o blwyf Baglan, Morgannwg oedd Ieuan. Roedd yn uchelwr a hyfforddodd fel bardd ac a ganai ar ei fwyd ei hun, h.y. er difyrrwch, heb fod yn fardd proffesiynol. Perthynai i lwyth Caradog ab Iestyn ap Gwrgant, Arglwydd Aberafan.

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir deg cywydd ac un awdl y gellir eu derbyn fel gwaith y bardd. Canodd gywydd i annerch Owain Tudur pan fu yng ngharchar Newgate yn 1437 a chanodd farwnad iddo pan gafodd ei ddienyddio yn 1461. Mae naws brudiol i'r cerddi hyn, ac roedd Ieuan yn un o'r rhai a welodd Owain Tudur fel y Mab Darogan disgwyliedig a fyddai'n ryddhau'r Cymry:

Er clybod darfu â dur
Newid hoedl Owain Tudur,
Gwilio Siasbar a Harri,
Ei ŵyr a'i fab, yr wyf i.[2]

O ddiddordeb fel tystiolaeth hanesyddol ac fel cerddi teimladwy, grymus yw ei farwnadau i'w ferch a'i fab a fu farw o haint y nodau. Roedd wedi gaddo rhodd o aur i'r eglwys pe bai ei fab hynaf, Siôn, yn dianc o afael y pla:

Addewaid ar weddïon
Ei bwys o aur er byw Siôn ;
Ar Dduw er a weddïais
Ni chawn Siôn mwy na chan Sais![3]

Mae'n bosibl mai ef hefyd yw awdur cywydd marwnad i bedwar plentyn arall a fu farw o'r clefyd ac a ystyrir gan rai yn un o gywyddau gorau'r cyfnod. Disgrifia'r chwarren oedd mor nodweddiadol o'r haint. Mor fychan yw ond mae'n "difa dyn":

Gŵyth llid yw gwaetha lle dêl,
Glain a bair ochain uchel.../
Chwarren bach ni eiriach neb ;
Mawr ei ferw mal marworwyn,
Modfedd a bair diwedd dyn.[3]

Cedwir ar glawr gywydd masweddus gan Ieuan Gethin sy'n disgrifio fel y cafodd yr haint wenerol ar ôl cael cyfathrach gyda merch lac ei moesau yn y llwyn. Cael hwyl am ei ben ei hun y mae'r bardd wrth ddisgrifio fel y bu rhaid iddo redeg am adref gyda'i gala a'i geilliau'n llosgi, a'i lodre yn ei lawes.[4]

Ceir traddodiad am ymryson barddol rhwng Ieuan Gethin a'r Proll. Canwyd marwnad i Ieuan gan Iorwerth Fynglwyd.

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Ieuan Gethin ei le yn y Forganwg chwedlonol a luniwyd gan Iolo Morganwg. Yn ôl Iolo, bu'n ymladd gyda Owain Glyn Dŵr ym Morgannwg. Ond ganwyd y bardd yn rhy hwyr i gymryd rhan yn y gwrthryfel.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir testun o gerdd faswedd Ieuan, dan y teitl 'Y Chwarae'n Troi'n Chwerw', yn:

  • Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (Tafol, 1991), tt. 94-97.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (Tafol, 1991).
  2. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 25.
  3. 3.0 3.1 G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 29.
  4. Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol, tud. 94.
  5. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tt. 24-25.