Dafydd Llwyd o Fathafarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd ac uchelwr o Fathafarn ym Mhowys oedd Dafydd Llwyd o Fathafarn (Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd: tua 1395 - 1486). Bardd a ganai ar ei fwyd ei hunan oedd Dafydd Llwyd, yn hytrach na bardd proffesiynol. Roedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd fel brudiwr a dehonglydd brudiau, yn gymaint felly fel y dywedir fod Harri Tudur wedi galw ym Mathafarn i ymgynghori ag ef ar ei ffordd i Faes Bosworth yn 1485.

Ei hanes a'i waith[golygu]

Ganed Dafydd Llwyd ym mhlas Mathafarn, ym mhlwyf Llanwrin, Mawddwy tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ôl pob tebyg. Roedd yn fab i Llywelyn ap Gruffudd, aelod o deulu pur bwysig yn yr ardal. Priododd ferch o'r enw Margred a bu iddynt dri o feibion, Ieuan, Meredudd a Llywelyn. Dyna bron y cwbl a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chanu beirdd eraill iddo. Credir iddo farw tua diwedd y 1480au neu ddechrau'r 1490au (ar dystiolaeth ei gerddi).

Roedd yn adnabyddus ledled y wlad fel bardd a brudiwr. Canodd ei gyfaill Ieuan Dyfi gywydd iddo a'i wraig, Margred. Cedwir ar glawr cywyddau ymryson rhwng Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun ynghylch clera hefyd, sy'n ffynhonnell bwysig am yr arfer gan y beirdd o grwydro ar gylch i ganu yn nhai noddwyr. Mae'n enwog hefyd am ei ymryson cellweirus a masweddus iawn â'r brydyddes Gwerful Mechain, sy'n perthyn i draddodiad canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol.

Ceir cerdd ganddo i Sant Tydecho, nawddsant Mawddwy, a moliant i Dafydd ab Ieuan ab Einion, capten Castell Harlech yn y gwarchae arno gan Edward IV o Loegr yn 1461-68.

Ond prif hynodrwydd y bardd yw ei cywyddau brud. Cedwir tua deugain y gellir eu derbyn yn bur hyderus fel gwaith Dafydd Llwyd. Maent yn perthyn i gyd bron i gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau - roedd yn gefnogwr brwd i blaid y Lancastriaid - ac ymgyrch Harri Tudur i ennill coron Lloegr. Fel y canu darogan yn gyffredinol - sydd gan amlaf yn waith beirdd anhysbys - brithir y cerddi hyn a chyfeiriadau ffyrnig o wrth-Seisnig a mynegir y gobaith y gwireddir yr hen ddaroganau sy'n proffwydo bydd y Saeson yn cael eu gyrru ar ffo a'r Cymry yn adennill eu meddiant ar Ynys Prydain.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y testunau:

  • W. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964). Testunau golygedig.
  • Dafydd Johnston (gol. a chyf.), Canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Verse (Tafol, 1991). Testun ymryson Dafydd Llwyd a Gwerful Mechain.

Astudiaethau:

  • Enid P. Roberts, Dafydd Llwyd o Fathfarn (1981)

Gweler hefyd[golygu]