Castell Harlech

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Harlech
Harlech Castle - Cadw photograph.jpg
Math Castell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1283 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd Edit this on Wikidata
Sir Harlech Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 6 Hectr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.859979°N 4.109125°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Edward I Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Edward I Edit this on Wikidata
Deunydd Tywodfaen Edit this on Wikidata

Saif Castell Harlech uwchben dref Harlech a Bae Tremadog yn ne Gwynedd. Mae'r castell heddiw yn nghofal Cadw. Gosodwyd y castell ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel un o gestyll a muriau trefol Edward I, brenin Lloegr yng Ngogledd Cymru, yn 1986.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd y castell gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1290. Cynlluniwyd y castell consentrig gan James o St George. Mae'r castell yn adeilad gref iawn uwchben craig fawr, ond gyda grisiau yn arwain at lan y môr. Fel hynny, roedd hi'n bosib anfon cychod dros y môr i'r castell yn ystod gwarchae, er enghraifft o Iwerddon. Defnyddiwyd y grisiau hyn i ddwyn nwyddau i'r castell mewn gwarchae yn ystod rhyfelgyrch Madog ap Llywelyn yn 1294–5.

Ar ôl gwarchae hir, cwympodd Castell Harlech i Owain Glyndŵr ym 1404, ond roedd y castell o dan reolaeth Saeson (Henri o Fynwy) drachefn ar ôl pedair blynedd arall. Bu farw Edmund Mortimer, oedd mewn cynghrair â Glyn Dŵr, yn ystod y gwarchae.

Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau roedd y castell dan reolaeth cefnogwyr Cymreig y Lancastriaid a Dafydd ap Ieuan yn cadw'r castell yn wyneb gwarchae fu'n para am wyth mlynedd, ac er fod arweinwyr y Lancastriaid yn Lloegr yn ildio i'r brenin. Mae'r gân Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech yn cyfeirio at y gwarchae hwnnw.

Pedair Cainc y Mabinogi[golygu | golygu cod y dudalen]

Harlech03LB.jpg

Ym Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir yr hanes amdani yn Ail Gainc y Mabinogi. Fel yma mae'r Ail Gainc yn dechrau (mewn orgraff ddiweddar):

'Bendigeidfran fab Llŷr, a oedd frenin coronog ar yr ynys hon, ac ardderchog (meddianwr) o goron Llundain. A phrynhawngwaith ydd oedd yn Harlech yn Ardudwy, yn llys iddo (ei lys yno). Ac yn eistedd ydd oeddynt ar garreg Harlech, uwch ben y weilgi (môr), a Manawydan fab Llŷr ei frawd gydag ef...'.

Gerllaw'r castell mae cerflun "Y Ddau Frenin" gan Ivor Roberts-Jones, yn darlunio Bendigeidfran yn cario corff ei nai, Gwern.

Y brif fynedfa i Gastell Harlech.
Castell Harlech ym 1610 ar fap John Speed.
Cynllun pensaerniol gan CADW o Gastell Harlech.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  • Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014