William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am eraill o'r un enw, gweler William Herbert (gwahaniaethu)

Iarll Penfro a ffigwr allweddol ar ochr plaid yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru oedd William Herbert, Iarll 1af Penfro (tua 14231469). Roedd yn fab i William ap Thomas ac yn ŵyr i Dafydd Gam.

Bu'n ymladd ym myddin Lloegr yn Normandi gyda Mathau Goch, a chafodd ei gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Formigny yn 1450. Gwnaed ef yn farchog Nadolig yr un flwyddyn. Fel cefnogwr selog plaid yr Iorciaid, gwobrwywyd Herbert a'r teitl Arglwydd Herbert o Raglan gan y brenin Edward IV. Ymladdodd dros yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461, pan gymerwyd Owain Tudur yn garcharor a'i ddienyddio. Yn 1468, wedi iddo gipio Castell Harlech, fe'i gwnaed yn Iarll Penfro, a rhoddwyd Harri Tudur ieuanc dan ei ofal. Bwriad Herbert oedd i Harri briodi ei ferch ef.

Fodd bynnag, cwerylodd Herbert a Richard Neville, Iarll Warwick, oedd wedi troi yn erbyn y brenin ac at achos y Lancastriaid. Cymerwyd Herbert a'i frawd Richard Herbert yn garcharor ym Mrwydr Edgecote, ger Banbury, a'i ddienyddio gan Warwick. Dilynwyd ef fel Iarll Penfro gan ei fab, William. Roedd yn briod ag Anne Devereux, a chawsant o leiaf ddeg plentyn.

Roedd William Herbert yn noddwr beirdd, a chanwyd nifer o gywyddau iddo gan Feirdd yr Uchelwyr, yn enwedig Guto'r Glyn, oedd ei hun yn bleidydd Iorc. Yn un o gywyddau enwocaf Guto, mae'n galw ar William Herbert i yrru'r swyddogion Seisnig o'r wlad ac uno Cymru, ac yn addo:

O digia Lloegr a'i dugaid
Cymru a dry yn dy raid