William Herbert, 2il Iarll Penfro (1451–1491)

Oddi ar Wicipedia
Am eraill o'r un enw, gweler William Herbert (gwahaniaethu)
William Herbert, 2il Iarll Penfro
Ganwyd5 Mawrth 1455 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1491 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadWilliam Herbert Edit this on Wikidata
MamAnne Devereux Edit this on Wikidata
PriodMary Woodville, Catherine Plantagenet Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Somerset Edit this on Wikidata
Arfau William Herbert, Iarll 1af Penfro

Iarll Penfro a ffigwr allweddol ar ochr plaid yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru oedd William Herbert, ail Iarll Penfro (5 Mawrth 145116 Gorffennaf 1491) a mab William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) ac Anne Devereux. Ei daid a'i nain ar ochr ei dad oedd William ap Thomas a Gwladys, merch Dafydd Gam; ei daid a'i nain ar ochr ei fam oedd Walter Devereux (1411–1459), Arglwydd Ganghellor Iwerddon ac Elizabeth Merbury.

Etifeddodd Iarllaeth Penfro ar ôl ei dad yn 1469. Yn 1479 cafodd ei orfodi gan Richard II, brenin Lloegr i ildio'r iarllaeth honno a'i diroedd yng Nghymru, gan dderbyn yn ei lle iarllaeth Huntingdon a thiroedd yn ne-orllewin Lloegr. Roedd hyn yn benderfyniad gwleidyddol gan Richard, sef ymgais i leihau dylanwad y teulu Herbert yng Nghymru.[1] Fel gweddill ei deulu, Iorcydd rhonc oedd William a bu'n driw iawn i'w frenin. Priododd Mary Woodville, chwaer y brenin, Elizabeth Woodville,[2] a chawsant un ferch, Elizabeth Herbert, 3ydd barwnes Herbert.

Wedi methiant Henry Stafford, ail ddug Buckingham i gipio'r goron yn 1483 derbyniodd swydd fel Prif Ustus De Cymru, a ddaliwyd cyn hynny gan Buckingham.[3]

Priododd am yr eildro, i Katherine, merch anghyfreithlon Richard III, yn 1484, a derbyniodd dâl blynyddol o £1,000 gan ddyblu ei incwm.[3][4] Bu Katherine farw cyn diwedd 1487.

Pan laniodd Harri Tudur ym Mhenfro yn 1485 un o weision William a aeth a'r neges i'r brenin.[5] Nid ymladdodd ym Mrwydr Maes Bosworth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Michael Hicks, The Wars of the Roses, (Yale University Press, 2012), 212.
  2. Charles Ross, Edward IV, (University of California Press, 1974), 93.
  3. 3.0 3.1 Charles Ross, Richard III, (University of California Press, 1981), 158.
  4. 'Bosworth: The Birth of the Tudors; gan Chris Skidmore; Phoenix Press (2013), t. 204
  5. Charles Ross, Richard III, 211.