Brwydr Mortimer's Cross

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Mortimer's Cross
Rhan o: the Rhyfel y Rhosynnau
Roses-York victory.svg
Dyddiad 2 Chwefror 1461
Lleoliad Wigmore yn Swydd Henffordd
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Iorciaid[1]
Rhyfelwyr
Yorkshire rose.svg Yr Iorciaid Lancashire rose.svg Y Lancastriaid
Arweinwyr
Blason ville 44 La-Marne.svg Edward, iarll March Armoiries Owen Tudor.svg Syr Owain Tudur
Jasper Tudor Arms.svg Siasbar Tudur, iarll Penfro
Coat of Arms of Sir James Butler, 1st Earl of Wiltshire, KG.png James Butler, 5ed iarll Ormond
Cryfder
Anhysbys Anhysbys
Clwyfwyd neu laddwyd
Anhysbys Anhysbys

Ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror, 1461 yn Wigmore (rhwng Henffordd a ger Llanllieni, Swydd Henffordd, yn ymyl Afon Lugg). Roedd yn un o gyfres o frwydrau rhwng pleidiau'r Lancastriaid a'r Iorciaid a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Ar ôl marwolaeth Richard, 3ydd dug Efrog ym Mrwydr Wakefield ddau fis ynghynt, arweinwyd yr Iorciaid gan ei fab deunaw mlwydd oed Edward, Iarll y Mers (Edward IV o Loegr yn ddiweddarach). Roedd yn ceisio rhwystro'r lluoedd Lancastraidd a godwyd yng Nghymru gan Owain Tudur a'i fab Siasbar rhag ymuno â'r brif fyddin Lancastraidd. Roedd Edward wedi codi milwyr ar hyd y Mers ac roedd yn ogystal nifer o filwyr Cymreig o dde-ddwyrain Cymru ganddo, dan Syr Wiliam Herbert a'i gefnogwyr. Brwydr rhwng Cymry oedd hon i bob pwrpas, a hynny am feddiant coron Lloegr.

Roedd Siasbar wedi treulio misoedd lawer yn codi ei fyddin o Gymry, Gwyddelod a Llydawyr. Yn nechrau Ionawr arweiniodd y fyddin o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain. Ymunodd byddin ei dad, Owain, ar y ffordd wrth iddynt deithio trwy ganolbarth Cymru. Ond heb lwyddo i gyfarfod â'r brif fyddin Lancastraidd yr oedd byddin Siasbar ac Owain yn sylweddol lai na byddin Edward.

Enillodd yr Iorciaid y dydd yn rhwydd, a ffoes Siasbar Tudur yn ôl i Benfro. Roedd Owain Tudur yn llai ffodus; cafodd ei ddal a'i ddienyddio yn Henffordd ar orchymyn Edward. Tybir fod cymaint â 4000 wedi'u lladd yn y frwydr, a'r rhan fwyaf ohonynt yn Gymry. Agorodd y frwydr y ffordd i goroni Edward yn frenin Lloegr yn nes ymlaen yn y flwyddyn a dechrau cyfnod o erledigaeth ar y Lancastriaid a'u cefnogwyr.

Cefndir a theyrngarwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhanwyd y Cymry yn Rhyfeloedd y Rhosynnau:

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)
    • Michael Hicks, The Wars of the Roses, (Yale University Press, 2012), 161.