Rosier Cinast ap Gruffudd o'r Cnwcin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion - yr hyn sy'n weddill - o hen gartref y teulu: Castell Myddle, Swydd Amwythig.

Uchelwr a milwr o blaid yr Iorciaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o'r Cnwcin (ca. 1433 – 1495). Cymerodd ei gyfenw 'Cinast' o enw tref Kynaston ym mhlwyf Kinnerley, Swydd Amwythig, a oedd a chysylltiad â phentrefi Cnwcin. Roedd o deulu dylanwadol yn y Mers, hen deulu a oedd a chysylltiadau brenhinol Cymreig. Mae'n bosib mae ef a laddodd Richard Neville, 16ed Iarll Warwick ym Mrwydr Tewkesbury ar yr ail o Fai 1471 ac fel gwobr, gwnaed e'n Farchog ar faes y gad.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mab Gruffudd o'r Cnwcin (neu Griffin Kynaston; c.1402) a Margaret Jane Hoord (c.1423) oedd Rosier. Distain Ellesmere, Swydd Amwythig oedd Gruffudd ac roedd Margaret yn ferch i John Hoord o Hordley a oedd yn un o ddisgynyddion Gruffydd Fychan ap Iorwerth ac felly Bleddyn ap Cynfyn, un o frenhinoedd Gwynedd a Powys.

Priododd ddwywaith, a hynny i ddwy 'Elizabeth'. Ei wraig gyntaf oedd Elizabetha Cobham (m. 1453), a thrwy hynny daeth yn berchennog Myddle Castle, Swydd Amwythig, fel gwaddol. Cawsant un mab: Thomas Kynaston (1453–1513), a briododd Maria Corbett. Daeth Thomas yn Uwch Siryf Swydd Amwythig yn 1508. Bu farw ei wraig gyntaf ac yn 1465 priododd eilwaith, gydag Elizabeth Grey c.1440 – 1501, merch Henry Grey, ail iarll Tankerville a'r Antigone Plantagenet, wyres Harri IV, brenin Lloegr. Cawsant nifer o blant:

  • Jana Kynaston (1466)
  • Margaret Kynaston (c. 1467), a briododd Richard Hanmer (1441 - 1507)
  • Humphrey Kynaston, a adnabyddwyd fel Wild Humphrey Kynaston, yr herwr
  • Lancelot Kynaston (1469)
  • Maria Kynaston (1470), a briododd Hywel ap Siencyn

Roedd ganddo nifer o frodyr a chwioryd: Siancyn, Phylib, Wiliam, Lucy ac Ann.

Goroesodd dwy gerdd iddo gan ddau fardd a adnabu ef: [[Guto'r Glyn a Lewys Glyn Cothi a ganodd gywydd iddo'n gofyn am arfwisg ar ran Edward ap Dafydd o Erbistog. Ceir hefyd dwy gerdd i blant Rosier: cywydd mawl gan Dudur Penllyn i Fari ferch Syr Rosier Cinast ac i’w gŵr, Hywel ap Siancyn o Ynysymaengwyn, a chywydd gan Gutun Owain i ofyn am fwcled gan Ruffudd ap Hywel ar ran Wmffre ap Syr Rosier Cinast. Canmolwyd ei ddisgynyddion a'i deulu gan nifer o feirdd: Gruffudd Hiraethog, Huw Arwystl, Rhys Cain, Lewys Powys, Wiliam Llŷn, Ieuan Llafar ac Edward Maelor.[1]

Swyddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n gwnstabl Dinbych yn 1454 a Harlech yn 1473[2]. Rhwng 1461 a 1463 bu'n siryf swydd Amwythig, y gŵr cyntaf i Edward ei benodi i’r swydd honno[3]. Erbyn 1473 fe’i gwnaed yn siryf sir Feirionnydd am ei oes (Evans 1995: 163). Ymddiredai'r Edward IV, brenin Lloegr ynddo i'r carn.[4]

Brwydrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymladdodd ym Mrwydr Blore Heath yn 1459, lle lladdodd yr Arglwydd Audley, ac yna ym Mrwydr Ludford ychydig fisoedd wedyn. Yn 1471 ymladdodd ym mrwydr Barnet (14 Ebrill), ac yna ym Mrwydr Tewkesbury ar yr ail o Fai. Yno, dywedir iddo ladd Richard Neville, 16ed Iarll Warwick ac fel gwobr, gwnaed e'n Farchog ar faes y gad, yn dilyn y frwydr. Ceir sawl cerdd gan Uto'r Glyn sy'n ategu'r wybodaeth amdano, yn enwedig am ei allu milwrol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ebrington, C.R. (1979) (ed.), A History of Shropshire, cyfr. iii (Rhydychen)
  • Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (ail gyhoeddiad, Stroud)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. gutorglyn.net; adalwyd 4 Chwefror 2017.
  2. Evans 1995: 63, 163
  3. Ebrington 1979: 75
  4. gutorglyn.net; adalwyd 4 Chwefror 2017.