Richard Neville, 16ed Iarll Warwick

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Neville, 16ed Iarll Warwick
Warwick1.jpg
Ganwyd 22 Tachwedd 1428 Edit this on Wikidata
Norwich Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Ebrill 1471 Edit this on Wikidata (42 oed)
Achos: lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Barnet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaeth condottiero, diplomydd, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Tad Richard Neville, 5th Earl of Salisbury Edit this on Wikidata
Mam Alice Montacute, 5th Countess of Salisbury Edit this on Wikidata
Priod Anne Neville, 16th Countess of Warwick Edit this on Wikidata
Plant Anne Neville, Isabel Neville, duges Clarence Edit this on Wikidata
Llinach House of Neville Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Richard Neville, Earl of Warwick.jpg
Hoff breswylfa Richard Neville: Castell Middleham yng ngogledd Efrog.

Uchelwr o Sais oedd Richard Neville, 16ed Iarll Warwick (Saesneg: Richard Neville, 16th Earl of Warwick) (22 Tachwedd 1428 – 14 Ebrill 1471), a adnabyddir hefyd fel Gwneuthurwr Brenhinoedd (Saesneg: Warwick the Kingmaker); roedd hefyd yn weinyddwr ac yn gadlywydd. Ganwyd ef yn fab i Richard Neville, 5ed Iarll Salisbury, Warwick oedd un o ieir cyfoethocaf a mwyaf pwerus ei oes. Roedd yn un o brif arweinwyr Rhyfel y Rhosynnau, yn wreiddiol ar ochr yr Iorciaid cyn newid ei gôt a throi at y Lancastriaid. Roedd yn allweddol yn y gwaith o gael gwared o ddau frenin a galwyd ef y 'Gwneuthurwr Brenhinoedd', ganrifoedd ar ôl iddo farw.

Drwy etifeddu arian a phriodi arian, erbyn 1450 roedd yng nghanol gwleidyddiaeth Lloegr. Cefnogodd Harri VI, brenin Lloegr ar y dechrau ond yn dilyn ffrae gydag Edmund Beaufort, dug cyntaf Somerset, ochrodd gyda Richard Plantagenet, 3ydd dug York, yn ei wrthwynebiad i'r brenin. Fe'i gwnaed yn Gwnstabl Calais, ardal a oedd ym meddiant Lloegr bryd hynny. Lladdwyd York ym Mrwydr Wakefield, a lladdwyd ei dad ei hun yn yr un brwydr. Cafodd Edward gefnogaeth Warwick ar y cychwyn, ond anghytunent parthed polisi tramor yn ogystal a dewis y brenin o wraig: dewisiodd un o'r werin gyffredin (Elizabeth Woodville). Wedi cynllwyn aflwyddiannus i goroni brawd Edward, George Plantagenet, dug cyntaf Clarence, cefnogodd Warwick Harri VI. Byr oedd y dathlu, fodd bynnag, ac ar 14 Ebrill 1471 gorchfygwyd Edward ym Mrwydr Barnet, a bu farw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]