Corsygedol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Corsygedol
Plas Corsygedol, Llanddwywe-is-y-graig NLW3361583.jpg
Math Adeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.7871°N 4.07726°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Teulu Fychan Corsygedol, Mostyn Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyf Llanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), ger Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, yw Corsygedol (cyfeiriad grid SH600231). Mae ganddo le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel aelwyd i deulu o noddwyr beirdd a chartref i gasgliad o lawysgrifau Cymraeg, yn cynnwys Llyfr Gwyn Corsygedol.

Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lan afon Ysgethin, ar esgair sy'n codi i fryniau'r Rhinogydd, yn Ardudwy.

Corsygedol heddiw: y porthdy gyda'r plasdy yn y cefndir

Cyrchai beirdd Gwynedd y plasdy i fwynhau nawdd Fychaniaid Corsygedol am yn agos i dair canrif a hanner. Mae'r cerddi cynharaf yn dyddio i ddiwedd y 15g, ond credir y bu'n blasdy pwysig ymhell cyn hynny hefyd. Dechreuwyd adeiladu'r plasdy presennol gan Rhisiart Fychan yn 1576, ac ychwanegwyd iddo gan ei fab Gruffudd Fychan. Yn 1630 ychwanegwyd y porth mawr gan William Fychan, mab Gruffudd.

Canodd y bardd Gruffudd Philip i Gorsygedol ddechrau'r 17g:

Gwal y gaer yn glaer deg lân,
Gwydr troeog ydyw'r traean.[1]

Edmyga'r bardd y ffenestri gwydr ardderchog, un o newyddbethau'r oes. Cerrig lleol a ddefnyddwyd i godi'r plasdy, sy'n nodweddiadol hefyd am ei simneiau mawr yn arddull lleol y rhan honno o Sir Feirionnydd.

Trwy gydbriodas, unwyd aelwyd Corsygedol a theulu Nannau, ger Dolgellau. Yr aelod mwyaf adnabyddus o'r teulu yn y cyfnod hwnnw yw William Vaughan (AS) (1707-75), Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd ac un o gyfellion pennaf y Morysiaid, yn enwedig Lewis Morris.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. dyfynnir gan Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]