William Vaughan (AS)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Vaughan
Ganwyd 1707 Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Ebrill 1775 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Teulu Evan Lloyd Vaughan Edit this on Wikidata
Erthygl am y gwleidydd a noddwr o'r 18fed ganrif yw hon. Gweler hefyd William Vaughan (Y Gelli-aur).

Gwleidydd Cymreig a noddwr llenyddiaeth oedd William Vaughan, (170712 Ebrill 1775[1]) o ystad Corsygedol, ym mhlwyf Llanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), ger Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn fab i Richard Vaughan a Margaret, merch ac etifeddes Syr Evan Lloyd, 2ail farwnig Bodidris yn Iâl a brawd i  Evan Lloyd Vaughan.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Addysgwyd ef yng Nghaer a Llundain ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Argraffwyd apêl Gymraeg Vaughan at etholwyr Meirionnydd yn etholiad 1747 gan Edward Breese yn ei gyfrol Kalendars of Gwynedd. Roedd yn Aelod Seneddol Meirionnydd o 1734 hyd 1768 ac Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd, a Phenllywydd cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Priododd Catheirne Nanney, merch Hugh Nanney, a etifeddodd ystad Nannau ar farwolaeth ei thad.[2]

Roedd William yn gyfaill i'r bardd a hynafiaethydd Lewis Morris ac yn noddi rhai o fentrau llenyddol a hynafiaethol y Morysiaid. Credir fod un o ganeuon mwyaf ysmala a masweddol Lewis, 'Cywydd i Haerwen o Gaerludd', yn seiliedig ar butain enwog yn Llundain a oedd yn adnabyddus i Lewis a William fel ei gilydd. Tynnu coes ei gyfaill oedd Lewis: roedd y bonheddwr parchus yn un o ferchetwyr enwocaf ei ddydd![3] Cyhoeddwyd y gerdd yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (1846) Archaeologia Cambrensis. Cambrian Archaeological Association, Argraffwyd gan W. Pickering, tud. 142. ISBN 0003066924
  2.  VAUGHAN (TEULU), Corsygedol, plwyf Llanddwywe, sir Feirionnydd. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Alan Llwyd, Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu. Cofiant Goronwy Owen 1723-1769 (Cyhoeddiadau Barddas, 1997), tt. 294-5.
Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Richard Vaughan
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
17341768
Olynydd:
John Pugh Pryse
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Gwag

cyn gwag:Iarll Cholmondeley

Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd
26 Ebrill 176212 Ebrill 1775
Olynydd:
Syr Watkin Williams-Wynn