George Cholmondeley, 3ydd Iarll Cholmondeley

Oddi ar Wicipedia

Roedd George Cholmondeley, 3ydd Iarll Cholmondeley KB, PC (2 Ionawr, 1703 - 10 Mehefin, 1770)  a adweinid fel Is-iarll Malpas rhwng 1725 a 1733, yn uchelwr Seisnig ac yn wleidydd Chwigaidd [1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Cholmondeley yn fab i George Cholmondeley, 2il Iarll Cholmondeley, ac Elizabeth van Ruyterburgh (neu Ruttenburg) ei wraig. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel Aelod Seneddol  Dwyrain Looe ym 1724, sedd a ddaliodd hyd 1727, wedi hynny bu'n cynrychioli etholaeth Windsor rhwng 1727 a 1733, pan olynodd ei dad i'r bendefigaeth fel y trydydd Iarll Cholmondeley a derbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cafodd ei benodi gan ei dad-yng-nghyfraith Syr Robert Walpole yn Arglwydd y Morlys 1727-1729, fel Arglwydd y Trysorlys 1735-1736 ac fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn 1736-1743 (o 1742 i 1743 o dan brif weinidogaeth Iarll Wilmington). O 1743-1744 gwasanaethodd hefyd fel Arglwydd y Sêl Gyfrin dan brif weinidogaeth Henry Pelham ac yn gyd Is-Drysorydd yr Iwerddon rhwng 1744 a 1757. Ym 1736 fe dderbyniwyd ef i'r Cyfrin Gyngor.

Gwasanaethodd  yr Arglwydd Cholmondeley fel Arglwydd Raglaw Swydd Gaer a holl siroedd Gogledd Cymru (ac eithrio Sir Ddinbych) o 1733 i 1760.

Roedd  yn weithgar  yn yr ymdrech elusennol i greu cartref ar gyfer plant cael (Saes: foundling) - yn Llundain, a gobeithiwyd byddai'n lliniaru'r broblem o adael plant mewn llefydd cyhoeddus yn yr obaith y byddai rhywun yn eu canfod a gofalu amdanynt. O ganlyniad i'w ymdrechion sefydlwyd y Foundling Hospital a bu Cholmondeley yn un o'r aelodau cyntaf o'i ffwrdd reoli.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Arglwydd Cholmondeley a'r Ledi Mary Walpole, merch y Brif Weinidog Robert Walpole, Iarll 1af Orford, ym 1723.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym mis Mehefin 1770, yn 67 mlwydd. Bu ei fab hynaf George Cholmondeley, Is-iarll Malpas, marw o'i flaen ac olynwyd ef yn y teitlau gan ei wŷr George, a grëwyd yn Ardalydd Cholmondeley ym 1815.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cokayne, G.E.; Vicary Gibbs, H.A. Doubleday, Geoffrey H. White, Duncan Warrand and Lord Howard de Walden, editors. The Complete Peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, Extant, Extinct or Dormant, new ed.. 13 volumes in 14. 1910-1959. Reprint in 6 volumes, Gloucester, U.K.: Alan Sutton Publishing, 2000.


Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
2il Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Môn
1733 - 1770
Olynydd:
Nicholas Bayly, 2il Farwnig
Rhagflaenydd:
2il Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon
1733 - 1770
Olynydd:
Thomas Wynn, Barwn 1af Niwbwrch
Rhagflaenydd:
2il Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Sir y Fflint
1733 - 1770
Olynydd:
Roger Mostyn, 5ed Barwnig
Rhagflaenydd:
2il Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd
1733 - 1770
Olynydd:
William Vaughan
Rhagflaenydd:
2il Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Sir Drefaldwyn
1733 - 1770
Olynydd:
Henry Herbert, Iarll 1af Powis