Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig
SirWatkinWilliamsWynnAndMother.jpg
Llun o Syr Watkin a'i fam gan Sir Joshua Reynolds, ca. 1768.
Ganwyd 23 Medi 1749 Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Gorffennaf 1789 Edit this on Wikidata (39 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Tad Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig Edit this on Wikidata
Plant Charles Watkin Williams-Wynn, Henry Williams-Wynn, Henrietta Elizabeth Williams-Wynn Edit this on Wikidata
Llinach Teulu Wynniaid, Rhiwabon Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Gwleidydd Cymreig oedd Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig (23 Medi 174924 Gorffennaf 1789).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mab hynaf o ail briodas Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwing i Frances Shackerley o Sir Gaer oedd Syr Watkin. Roedd dal yn faban pan laddwyd ei dad wrth ddisgyn oddi ar ei geffyl tra'n hela, ac etifeddodd ystadau helaeth Wynnstay. Wrth ddod i oedran yn 1770, cynhaliodd barti afradlon gyda 15,000 o westeion. Mae siwt frodiog, y gall ei fod wedi ei wisgo ar y pryd, yn Amgueddfa Cymru.[1]

Roedd yn aelod seneddol dros Swydd Amwythig rhwng 1772 a 1774, a thros Sir Ddinbych rhwng 1774 a 1789. Ef oedd Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd o 1775-1789. Roedd yn noddwr pwysig y celfeddydau, ac roedd George Frideric Handel y cyfansoddwr, a David Garrick y chwareuydd ymysg ei ffrindiau. Noddodd y telynor John Parry Ddall hefyd, a ddaeth yn fath o delynor teuluol yn Wynnstay.

Priododd ddwywaith, i Henrietta Somerset yn gyntaf, a fu farw'n fuan wedyn, ac i Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville, ym mis Rhagfyr 1771. Fe gafodd dri mab a dwy ferch o'i ail briodas. Fe baentiodd Syr Joshua Reynolds bortread ohonno gyda'i ail wraig mewn gwisg theatrig, ac un arall o'i wraig a'i blant, tua 1778.

Sefydlodd ddwy ysgol ym mhlwyf Rhiwabon a chyfrannodd yn hael at Ysgol Gymraeg Llundain. Williams-Wynn oedd ail 'Benllywydd' Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[2] Ychwanegwyd at diroedd Wynnstay yn 1752, pan brynwyd stadau Mathafarn (gan gynnwys maenor Cyfeiliog) a Rhiwsaeson ar ei ran gan ei fam.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Richard Lyster a
Charles Baldwyn
Aelod seneddol Swydd Amwythig
1772–1774
Olynydd:
Noel Hill a
Charles Baldwyn
Rhagflaenydd:
Syr Lynch Cotton
Aelod seneddol Sir Ddinbych
1774-1789
Olynydd:
Robert Watkin Wynne
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
William Vaughan
Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd
1775-1789
Olynydd:
Watkin Williams
Barwnigion Lloegr
Rhagflaenydd:
Watkin Williams-Wynn
Barwnig
1749–1789
Olynydd:
Watkin Williams-Wynn