Henry Watkins Williams-Wynn
| Henry Watkins Williams-Wynn | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Mawrth 1783 |
| Bu farw | 28 Mawrth 1856 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd |
| Swydd | Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad y Deyrnas Unedig I'r Swistir, llysgennad y Deyrnas Unedig i Denmarc, llysgennad y Deyrnas Unedig i Württemberg, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig |
| Cyflogwr | |
| Tad | Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig |
| Mam | Charlotte Williams-Wynn |
| Priod | Hester Frances Williams-Wynn |
| Plant | Marie Emily Williams-Wynn, Charlotte Henrietta Williams-Wynn, Grenville Watkin Williams-Wynn, Katharine Williams-Wynn, Arthur Watkin Williams-Wynn, Henry Bertie Watkin Williams-Wynn |
Roedd Syr Henry Watkins Williams-Wynn (16 Mawrth 1783 – 26 Mawrth 1856) yn ddiplomydd a gwleidydd o Gymru.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Williams-Wynn ym 1783 yn drydydd mab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, a Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville. Roedd Grenville yn ddeiliad nifer o swyddi pwysig yn y llywodraeth, gan gynnwys gwasanaethu fel prif weinidog y DU rhwng 1763 a 1765. Roedd Henry yn frawd i Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Charles Watkin Williams-Wynn (1775-1850).[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd a'r swyddfa dramor fel clerc yn Ionawr 1799, pan oedd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville, yn bennaeth y swyddfa, ac yn gynnar yn 1801 penodwyd ef yn ysgrifennydd preifat ac yn awdur crynodebu. Rhwng Ebrill 1803 ac Ebrill 1807 roedd yn llysgennad arbennig i Etholwr Sacsoni, a gwobrwywyd ei wasanaeth â phensiwn o £1,500 y flwyddyn [3]. Am ychydig fisoedd (Ionawr i Ebrill 1807) eisteddodd yn y senedd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Midhurst. Gwnaethpwyd Wynn yn llysgennad arbennig ac yn weinidog plenipotensiwr i'r Swistir yn Chwefror 1822; beirniadwyd y penodiad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 26 Mawrth 1822, ac yn Nhŷ'r Cyffredin ar 15 a 16 Mai. O herwydd y feirniadaeth trosglwyddwyd ef i swydd debyg yn llys Würtemberg yn Chwefror 1823. Ym Medi 1824 anfonwyd ef i gyflawni swydd debyg yn Copenhagen, gan aros yno tan yn gynnar ym 1853.[4]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Pan benodwyd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville' yn ganghellor Prifysgol Rhydychen rhoddodd gradd D.C.L. (Doethuriaeth yn y Gyfraith Gyffredin) i Williams-Wynn.
Daeth Williams-Wynn yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 30 Medi 1825. Cafodd ei urddo'n Farchog Croes Mawr Hanover ym 1831, ac yn Farchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ar 1 Mawrth 1851.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1813 priododd Hester Frances 6ed merch Robert, Yr Arglwydd Carrington. Bu iddynt tri mab a thair merch.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Llanforda, Swydd Amwythig yn 73 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Courtney, W., & Matthew, H. (2008, January 03). Wynn, Sir Henry Watkin Williams (1783–1856), diplomatist. Oxford Dictionary of National Biography Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ Jones, E. G., & Jones, E. D., & Roberts, B. F., (1997). WYNN (TEULU), Wynnstay, Rhiwabon. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ Hansard, 15 Mai 1822, t. 624
- ↑ History of Parliament Online WILLIAMS WYNN, Henry Watkin (1783-1856), of Llanforda, Salop Archifwyd 2019-07-29 yn y Peiriant Wayback Adferwyd 29 Gor 2019