Charles Watkin Williams-Wynn (1775–1850)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Watkin Williams-Wynn
Charles Watkin Williams-Wynn.JPG
Ganwyd 9 Hydref 1775 Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Medi 1850 Edit this on Wikidata (74 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Senedd Prydain Fawr, Llywydd y Bwrdd Rheoli, Ysgrifennydd Rhyfel, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Tad Syr Watkin Williams-Wynn Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Y Gwir Anrhydeddus Charles Watkin Williams-Wynn (9 Hydref, 17752 Medi, 1850) yn wleidydd Cymreig. Bu'n cynrychioli'r sedd bwdr enwog Hen Sallog (Old Sarum) o 1797 i 1799 ac yna etholaeth Sir Drefaldwyn o 1799 i 1850. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn gweinyddiaethau Torïaidd a Chwigaidd. Roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin (yr aelod efo'r cyfnod hiraf o wasanaeth di-dor) rhwng 1847 a 1850.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Charles Watkin Williams-Wynn yw'r bachgen yn y llun hwn gan Joshua Reynolds o'i fam, Charlotte Williams-Wynn, a'i phlant.

Roedd Charles Watkin yn ail fab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig Wynnstay, Rhiwabon a Charlotte (née Grenville) ei wraig. Roedd y Ledi Charlotte yn ferch i George Grenville, Prif Weinidog Prydain (1763–1765) ac yn chwaer i William Wyndham Grenville, Barwn 1af Grenville (Prif Weinidog 1806–1807).

Addysgwyd Williams-Wynn yn Ysgol Westminster ac Eglwys Crist, Rhydychen gan raddio B.A. ym 1795, ac M.A. ym 1798. Cyfaill ysgol iddo oedd y bardd Robert Southey a bu Williams-Wynn yn noddi ei yrfa farddonol.

Priododd Mary Cunliffe, merch Syr Foster Cunliffe, 3ydd Barwnig, ym 1806. Bu iddynt saith o blant, dau fab a phum merch. Roedd eiumerch hynaf Charlotte Williams-Wynn yn ddyddiadurwr nodedig; bu ei fab hynaf, Charles Watkin Williams-Wynn (1822-1896), hefyd yn gwasanaethu fel AS Sir Drefaldwyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Williams-Wynn i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1798 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdeithiau Rhydychen a Gogledd Cymru. Cafodd ei benodi yn feinciwr ym 1835. Bu yn Gofiadur Llys Sirol Croesoswallt 1798-1835[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1797 cafodd Williams-Wynn ei ethol i'r senedd fel un o'r ddau aelod a etholwyd gan lond llaw o fwrdeiswyr absennol ar gyfer etholaeth bwdr Hen Sallog o dan nawdd Richard Wellesley, 2il Iarll Mornington. Pan ddaeth hen sedd ei daid Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig, Sir Drefaldwyn, yn rhydd ym 1799 ymddiswyddodd fel aelod Hen Sallog a chael ei ethol dros Sir Drefaldwyn gan dal y sedd am 51 mlynedd ganlynol.

Ym 1806 fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn y Weinyddiaeth a arweiniwyd gan ei ewythr yr Arglwydd Grenville. Parhaodd yn y swydd hyd ddymchwel y llywodraeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Williams-Wynn yn aelod gweithgar o'r Senedd ac yn cael ei ystyried yn awdurdod ar drefn Tŷ’r Cyffredin, gan hynny cafodd ei enwebu ar gyfer swydd y Llefarydd ym 1817, ond oherwydd nam ar ei leferydd awgrymodd rhai o'i wrthwynebwyr mai Squeaker byddai nid Speaker a chafodd ei orchfygu ar bleidlais gan Charles Manners Sutton.[3]

Yn y 1810au roedd Williams-Wynn yn arweinydd grŵp o Aelodau Seneddol a geisiodd, yn aflwyddiannus, i sefydlu trydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin o dan nawdd ei gefnder yr Arglwydd Buckingham. Wedi methiant yr ymgyrch i greu trydedd blaid ymunodd a'r Torïaid.[4]

Ym mis Ionawr 1822 cafodd Williams-Wynn ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor a'i benodi yn Llywydd y Bwrdd Rheoli, gyda sedd yng nghabinet yn llywodraeth Dorïaidd Iarll Lerpwl. Arhosodd yn y swydd hon yng ngweinyddiaethau George Canning a'r Arglwydd Goderich. Pan ddaeth Dug Wellington yn Brif Weinidog yn 1828, ni chafodd cynnig swydd yn y llywodraeth gan hynny fe ymunodd a'r Chwigiaid a phan ddaeth y blaid honno i rym o dan arweiniad yr Arglwydd Grey ym 1830 penodwyd Williams-Wynn yn Ysgrifennydd Ryfel, ond heb sedd yn y cabinet. Parhaodd yn y swydd hyd fis Ebrill 1831 ond ni chafodd cynnig unrhyw swydd arall yn llywodraeth y Chwigiaid. Yn 1834 dychwelodd y Torïaid i rym o dan Syr Robert Peel, a phenodwyd Williams-Wynn yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn. Syrthiodd llywodraeth Peel mis Ebrill 1835 ac ni phenodwyd Williams-Wynn i unrhyw swydd wedi hynny. Parhaodd i gynrychioli Maldwyn yn y Senedd hyd ei farwolaeth ym 1850, rhwng 1847-1850 roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Williams-Wynn yn 20 Stryd Grafton, Llundain, ar 2 Medi, 1850 yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell deuluol yng Nghapel San Siôr, Bayswater, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Wynn, Charles Watkin Williams (DNB00), Wikisource [1] adalwyd 17 Mai 2015
  2. Charles Watkin Williams Wynn (1775–1850) ail gyhoeddwyd ar wefan History Home [2] adalwyd 17 Mai 2015
  3. WILLIAMS WYNN, Charles Watkin (1775–1850), of Langedwyn, Denb. yn History of Parliament online [3] adalwyd 17 Mai 2015
  4. The Defectors: A history of crossing the floor, Total Politics 2013 [4] adalwyd 17 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Francis Lloyd
Aelod Seneddol Maldwyn
17991850
Olynydd:
Herbert Watkin Williams-Wynn