George Canning

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
George Canning
George Canning by Richard Evans - detail.jpg
Ganwyd 11 Ebrill 1770 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Awst 1827 Edit this on Wikidata (57 oed)
Achos: niwmonia Edit this on Wikidata
Chiswick Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, diplomydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Llywydd y Bwrdd Rheoli, Trysorydd y Llynges, llysgennad y Deyrnas Unedig i Bortwgal, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 17th Parliament of Great Britain, Member of the 18th Parliament of Great Britain, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddol Tori Edit this on Wikidata
Tad George Canning Edit this on Wikidata
Mam Mary Ann Costello Edit this on Wikidata
Priod Joan Canning, Is-iarlles 1af Canning Edit this on Wikidata
Plant Charles Canning, George Charles Canning, William Pitt Canning, Harriet de Burgh, Marchioness of Clanricarde Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd George Canning (11 Ebrill 1770 - 8 Awst 1827) yn gyfreithiwr, diplomydd a gwleidydd Seisnig a wasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Canning yn Marylebone, Middlesex yn blentyn i Charles Canning, bargyfreithiwr, a Mary Ann (née Costello) ei wraig. Pan oedd yn flwydd oed bu farw ei dad. Er mwyn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd trodd ei fam at actio fel bywoliaeth, gan deithio'r theatrau rhanbarthol. Cafodd Canning ei addysg foreol trwy fynychu ysgolion am wythnosau ar y tro, ble bynnag roedd ei fam yn aros ar daith. Daeth ei fam yn feistres i'r actor Samuel Reddish a chafodd y cwpl pump o blant anghyfreithiol. Wedi ffieiddio at ba mor isel roedd bywyd a statws ei nai yn syrthio ymyrrodd ei ewythr, bancwr cefnog yn Llundain, trwy ddod yn warchodwr iddo. Trefnodd yr ewythr i Canning mynychu ysgol Hyde Abbey, Winchester ac wedyn Coleg Eton. O Eton aeth i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen. Ym 1792 aeth i Lincolns Inn i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr ysgol a'r coleg roedd gan Canning tueddiadau radical a gweriniaethol a bu'n gefnogol o rannau o'r syniadaeth a arweiniodd at y Chwildro Ffrengig. Wedi penderfynu ar yrfa wleidyddol cymedrolodd ei farn a daeth yn Aelod Seneddol Torïaidd, teyrngar i'r frenhiniaeth. Pan etholwyd ef i'r Senedd am y tro cyntaf ym 1796, roedd yn gefnogwr i'r Prif Weinidog Pitt. [3] Cafodd swydd lywodraethol bron yn union gan ddod yn is-ysgrifennydd materion tramor rhwng 1796 a 1799; ar ôl gwasanaethu mewn swyddi eraill eraill ymddiswyddodd gyda Pitt ar y mater Catholig ym 1801.

Ysgrifennydd Tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Mawrth 1807 daeth Canning yn ysgrifennydd tramor yng ngweinyddiaeth Portland. [4] Ym 1809 cychwynnodd Canning ar gyfres o anghydfodau o fewn y llywodraeth a oedd i ddod yn enwog. Dadleuodd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel a'r Trefedigaethau, yr Arglwydd Castlereagh, ynghylch lleoli milwyr yr oedd Canning wedi addo y byddent yn cael eu hanfon i Bortiwgal ond a anfonodd Castlereagh i'r Iseldiroedd. Cafodd y llywodraeth ei barlysu fwyfwy o herwydd anghydfodau rhwng y ddau ddyn. Roedd Portland mewn iechyd gwan ac ni roddodd unrhyw arweiniad, hyd i Canning fygwth ymddiswyddo oni bai bod Castlereagh yn cael ei symud a'i ddisodli gan yr Arglwydd Wellesley. Cytunodd Portland yn gyfrinachol i wneud y newid hwn pan fyddai’n bosibl.

Clywodd Castlereagh am y trefniant rhwng Portland a Canning heriodd Canning i ymladd gornest arfog. Derbyniodd Canning yr her ac ymladdwyd hi ar 21 Medi 1809 ar Putney Heath. Methodd Canning, nad oedd erioed wedi tanio pistol o'r blaen, ei farc yn llwyr. Roedd Castlereagh yn cael ei ystyried yn un o saethwyr gorau ei ddydd, a chlwyfodd ei wrthwynebydd yn y glun. [5] Roedd llawer o ddicter bod dau weinidog cabinet wedi troi at ymryson o'r fath. Yn fuan wedi hynny ymddiswyddodd Portland o'r Brif Weinidogaeth o herwydd ei iechyd, a chynigiodd Canning ei hun i Siôr III fel darpar olynydd. Fodd bynnag, penododd y Brenin Spencer Perceval i'r swydd, a gadawodd Canning ei swydd unwaith yn rhagor. Cymerodd gysur, serch hynny, yn y ffaith bod Castlereagh hefyd wedi sefyll i lawr.

Ar ôl llofruddiaeth Perceval ym 1812, cynigiodd y Prif Weinidog newydd, yr Arglwydd Lerpwl, swydd i Canning fel Ysgrifennydd Tramor unwaith eto. Gwrthododd Canning, gan ei fod hefyd yn dymuno bod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac roedd yn amharod i wasanaethu mewn unrhyw lywodraeth gyda Castlereagh. [6]

Rhwng 1816 a 1820 roedd Canning yn y Cabinet fel llywydd Bwrdd Rheoli India a gwasanaethodd yno gyda rhagoriaeth, ond ymddiswyddodd ym 1820 i gefnogi'r Frenhines Caroline yn yr achos ysgariad. [7] Ym 1822 fe'i penodwyd yn llywodraethwr cyffredinol India ac roedd ar fin cychwyn i'r India pan agorodd hunanladdiad Castlereagh ym mis Awst 1822 y Swyddfa Dramor iddo unwaith eto. Unwaith eto mynnodd arweinyddiaeth Tŷ'r Cyffredin, a'r tro hwn cafodd ei ddymuniad. Parhaodd Canning â llawer o bolisïau tramor Castlereagh, megis y farn na ddylid caniatáu i bwerau Ewrop (Rwsia, Ffrainc, ac ati) ymyrryd ym materion gwladwriaethau eraill. Fe wnaeth hefyd atal yr Unol Daleithiau rhag agor masnach ag India'r Gorllewin Prydeinig. Rhybuddiodd Canning y Ffrancwyr y byddai pŵer môr Prydain yn cael ei ddefnyddio i atal unrhyw alldaith ganddynt ar draws Môr yr Iwerydd. Ym 1825 estynnodd Canning gydnabyddiaeth Brydeinig i dair gweriniaeth yn America Ladin, a thrwy hynny gyfnerthu eu hannibyniaeth a gwneud marchnad arian Prydain yn fwy hygyrch iddynt. Rhoddodd cefnogaeth Prydain i ymgyrch Groeg i ddod yn annibynnol o Dwrci. [8]

Prif weinidog[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd yr Arglwydd Lerpwl, y prif weinidog, ei barlysu ym mis Chwefror 1827, olynodd Canning ef fel prif weinidog. [9] Achosodd ei ddyrchafiad rhaniad difrifol ym mhlaid y Torïaid. Gwrthododd Wellington, Peel, ac eraill wasanaethu oddi tano. Llwyddodd Canning i recriwtio eraill, ond achosodd y cyfnod pontio straen dwys iddo a effeithiodd ar ei iechyd. Bu farw, ac o ganlyniad i annwyd trwm ar 8 Awst, 1827. Cafodd ei gladdu yn Abaty Westminster ar 16 Awst

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Canning â Joan Scott (yr Is-iarlles 1af Canning yn ddiweddarach) ar 8 Gorffennaf 1800, bu iddynt bedwar o blant: [10]

  • George Charles Canning (1801-1820), bu farw o alcoholiaeth
  • William Pitt Canning (1802-1828), boddodd ger Madeira, Portiwgal
  • Harriet Canning (1804-1876), priod Ardalydd 1af Clanricarde
  • Charles John Canning (2il Is-iarll Canning ac Iarll 1af Canning) (1812-1862)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. George Canning - Bywgraffiadur Rhydychen
  2. "George Canning | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-10-12.
  3. "George Canning". Spartacus Educational. Cyrchwyd 2020-10-12.
  4. George Canning - Gwefan History of Parliament
  5. "George Canning - New World Encyclopedia". www.newworldencyclopedia.org. Cyrchwyd 2020-10-12.
  6. Hill, Frank Harrison (1887). George Canning. New York, D. Appleton. t. 121.
  7. Stapleton, Augustus Granville (1859). George Canning and his times. London, J. W. Parker and son. t. 296.
  8. Cecil, Algernon (1927). British foreign secretaries, 1807-1916; studies in personality and policy. Internet Archive. London, G. Bell. ISBN 978-0-8046-1212-8.
  9. George Canning - Gwefan Hansard
  10. "George Canning". web.archive.org. 2007-05-25. Cyrchwyd 2020-10-12.