8 Awst yw'r ugeinfed dydd wedi'r dau gant (220fed) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (221ain mewn blynyddoedd naid). Erys 145 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
1963 - Dygodd 15 o ladron gwerth £2,600,000 o arian papur oddi ar drên yn Swydd Buckingham, lladrad a adnabyddir fel The Great Train Robbery.
1966 - Cyhoeddodd Mao Zedong ddechrau'r Chwyldro Diwylliannol gyda'r bwriad honedig o adfywio'r chwyldro gomiwnyddol. Gweithredwyd y chwyldro gan y Gwarchodlu Coch ac amcangyfrifir bod rhyw hanner miliwn wedi marw yn ei sgil cyn iddo ddirwyn i ben yn 1969.